bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Protest cefnogwyr

16 Medi 2005

Tydi darpar brynwr Wrecsam, Andy Smith, ddim yn deall pam fod y cefnogwyr yn erbyn ei gynllun i gymryd drosodd clwb y Cae Ras.

Ddydd Sadwrn bydd hyd at 150 o gefnogwyr yn cynnal protest yn erbyn Smith yn Woking, ei dref lleol.

Byddant yn galw arno i ddod a'i ddiddordeb yn y clwb i ben, a hwythau yn ofni y gallai werthu'r Cae Ras pe byddai'n dod yn berchennnog.

"Yr wyf wedi synnu gyda'u hagwedd. Rydym wedi eu sicrhau nad oes unrhyw fwriad i ddymchwel y stadiwm neu i symud y clwb," meddai Smith.

Mae'r cefnogwyr ynghyd â'r gweinyddwyr eisiau gweld y perchennog dadleuol Alex Hamilton yn gwerthu'r clwb i gonsortiwm sydd yn cael ei arwain gan y gwr busnes lleol, Neville Dickens.

Drwy gynnal protest yn Woking, dywed trefnydd yr orymdaith Barry Jones eu fod yn gobeithio gyrru neges i Smith.

"Rydym eisiau i Mr Smith wybod ein bod yn gwrthwynebu ei ddiddordeb yn y clwb," meddai.

"Fe ddylai sefyll i'r neilltu gan adael i gonsortiwm Dickens i brynu'r clwb a sicrhau dyfodol Clwb Pêl Droed Wrecsam a lleoliad chwaraeon ar gyfer Cymru gyfan."









Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy