Wrecsam 2-0 Boston
06 Awst 2005
Cafwyd dechrau perffaith i'r tymor newydd ar Y Cae Ras gyda gôl ym mhob hanner gan Mark Jones a Lee Roche yn sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r Dreigiau.
Daeth y gôl gyntaf wedi 23 munud wrth i Mark Jones danio taran o ergyd o 20 llath heibio Nathan Abbey yn y gôl i Boston.
Gwrthodwyd 'gôl' gan Lee McEvilly am ei fod yn camsefyll a tharodd Jon Walters y postyn wrth i'r Dreigiau llwyr reoli'r chwarae.
A choronwyd prynhawn perffaith â gôl gan Lee Roche yn dilyn gwaith campus i lawr yr asgell chwith gan yr eilydd Dean Bennett.
Wrecsam: Ingham, Pejic, Bayliss, Lawrence, Roche, Mark Jones,
Ferguson, Williams, Holt, Walters, McEvilly.
Eilyddion:
Michael Jones, Spender, Mackin, Smith, Bennett.
Boston Utd: Abbey, Canoville, Greaves, Futcher, McCann,
Maylett, Talbot, Holland, Johnson, Joachim, Whelan.
Eilyddion: White,
Rusk, Thomas, Norris, Wright.
Dyfarnwr: G Lewis (Sir Caergrawnt)