|
Ugarte'n cytuno efo Crewe
03 Gorffennaf 2005
Mae prif sgoriwr Wrecsam, Juan Ugarte, wedi cytuno ar delerau personol efo Crewe Alexandra a bydd yn cwblhau ei drosglwyddiad wythnos yma.
Mae cytundeb y gŵr o Wlad y Basg wedi dod i ben ac mae wedi gwrthod cynnig newydd.
Bydd Ugarte, ymunodd Wrecsam ym mis Hydref gan rwydo 22 gôl mewn 38 ymddangosiad, yn ymuno â Crewe wrth iddynt baratoi ar gyfer y tymor newydd ym Mhortiwgal.
Mae disgwyl i Wrecsam golli ymosodwr arall hefyd gyda Chris Llewellyn ar fin ymuno â Hartlepool.

|