Rhybudd gyfreithiol i berchennog Wrecsam
06 Mai 2005
Mae'r gweinyddwyr sydd yn rhedeg Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gwrthod gadael Y Cae Ras ym mis Gorffennaf er iddynt dderbyn gorchymyn i wneud hynny gan y perchennog.
Maent hefyd wedi rhybuddio'r perchennog, Alex Hamilton, eu bod yn fodlon cymryd camau cyfreithiol oni bai ei fod yn gwerthu'r clwb yn y dyfodol agos.
Daw hyn wedi ymchwiliad trwyadl gan y gweinyddwyr sydd yn gyfrifol am y clwb, i holl agweddau busnes y clwb mewn perthynas â phrydles a rhyddfraint Y Cae Ras.
Mae'r clwb wedi chwarae eu gemau ar Y Cae Ras ers 133 o flynyddoedd.
Mewn datganaid, cyhoeddodd y gweinyddwyr, Begbies Traynor, eu bod wedi "cynnal archwiliad i holl agweddau busnes y clwb mewn perthynas â phrydles a rhyddfraint Y Cae Ras."Mae'r datganiad yn parhau:"O ganlyniad i'r ymchwil yma, mae ein cyfreithwyr wedi rhybuddio'r perchnogion, Crucial Move Ltd. (Damens Ltd fel ag yr oedd), nad ydym yn derbyn fod y cymal yn y cytundeb i adael y maes yn ddilys, ac o'r herwydd ni fyddwn yn gadael Y Cae Ras ym mis Gorffennaf 2005.
"Yn ychwanegol rydym wed rhybuddio'r perchnogion bydd diffyg canlyniad boddhaol neu werthiant teg yn y dyfodol agos, yn golygu byddwn yn cymryd camau cyfreithiol pellach er mwyn ceisio sicrhau bod rhyddfraint y maes yn dychwelyd i'r clwb.
"Rydym yn parhau i obeithio bydd gwerthiant teg yn bosib ac na fydd angen cynmryd camau cyfreithiol."