bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Wrecsam 1-2 Brentford

03 Mai 2005

Cafwyd dwy gôl yn yr ail hanner gan Brentford wrth iddynt ddod yn ôl i sicrhau triphwynt ar Y Cae Ras a gyrru Wrecsam i lawr i Gynghrair Dau.

Roedd Y Dreigiau wedi mynd ar y blaen wedi pum munud wrth i Eddie Hutchinson droi cic cornel Darren Ferguson i'w rwyd ei hun o dan bwysau gan Juan Ugarte.

Ac er i Ugarte, Danny Williams a Chris Llewellyn fynd yn agos, methodd y tîm cartref ag ymestyn eu mantais.

Peniodd Isiah Rankin y bêl i gefn y rhwyd wedi 68 munud i dawelu'r dorf a chafwyd halen yn y briw yn y funud olaf wrth i'r eilydd, Scott Fitzgerald rwydo i Brentford.

Roedd Wrecsam wedi dechrau ar dân gan bwyso'n ddi-baid ac wedi mynd ar y blaen yn gynnar roedd y dorf ar Y Cae Ras yn swnllyd ac yn llawn hyder.

Aeth Chris Llewellyn yn agos 10 munud yn ddiweddarach wrth ddwyn meddiant yng nghanol cae a bu rhaid i Stuart Nelson fod ar ei orau i droi chwip o ergyd allan am gic cornel.

A roedd y golwr yn effro unwaith eto wrth arbed taran o ergyd gan Carlos Edwards o 25 llath.

Wedi llwyddo i wrthsefyll cryn bwyso gan yr ymwelwyr cafodd Juan Ugarte gyfle euraidd wrth dderbyn pas Andy Holt ar ochr y cwrt cosbi, ond methodd reoli'r bêl a llwyddodd Nelson i arbed yn ddewr.

Roedd Wrecsam yn ffodus i beidio ildio gôl dau funud cyn yr egwyl wedi Deon Burton ganfod ei hun yn rhydd yn y cwrt cosbi ond tarodd yr ymosodwr ei ergyd ymhell heibio'r postyn.

Cafodd Ugarte gyfle euraidd arall ar ddechrau'r ail hanner wrth i Llewellyn droi Sodje a chanfod Ugarte ar ochr y cwrt cosbi.

Ond roedd cyffyrddiad y gŵr o Wlad y Basg yn warthus a llwyddodd Nelson i gasglu'r bêl yn hawdd.

Bu rhaid i Wrecsam dalu'n ddrud am fethu'r holl gyfleon wrth i Rankin rwydo wedi 68 munud a roedd y siom yn amlwg ar wynebau'r chwaraewyr a'r dorf wrth i Fitzgerald sicrhau'r triphwynt a thynged Wrecsam ar gyfer tymor nesaf.


Wrecsam: Foster, Pejic, Morgan, Lawrence, Edwards, Williams, Ferguson, Crowell, Holt, Ugarte, Llewellyn.

Eilyddion: Smith,Armstrong, Bennett, Mark Jones, Harrison.

Brentford: Nelson, O'Connor, Sodje, Turner, Hargreaves, Tabb,Talbot, Frampton, Hutchinson, Rankin, Burton.

Eilyddion: Salako,Pratley, Scott P Fitzgerald, Bankole, Gayle.

Dyfarnwr: E Evans (Manceinion)







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy