Port Vale 0-2 Wrecsam
26 Ebrill 2005
Llwyddodd Wrecsam i gadw eu gobeithion o aros yng Nghynghrair Un yn fyw â buddugoliaeth wych oddi cartref yn erbyn Port Vale nos Fawrth.
Aeth Y Dreigiau ar y blaen wedi 21 munud wrth i Andy Holt gasglu peniad Dennis Lawrence o gic gornel a rhwydo.
Tarodd Carlos Edwards a Juan Ugarte y postyn cyn i Chris Llewellyn grymanu'r bêl i'r rhwyd wedi derbyn pas gelfydd Darren Ferguson.
Deffrodd Vale wedi'r egwyl ond roedd golwr Y Dreigiau, Ben Foster, ar ei orau wrth sicrhau'r triphwynt i Wrecsam.
Mae Wrecsam yn wynebu gêm arall holl bwysig yn erbyn Stockport, sydd eisoes wedi disgyn o'r aran, ddydd Sadwrn.Bydd rhaid i'r Dreigiau ennill yn Edgley Park a gobeithio na fydd Torquay yn trechu Blackpool.
Port Vale: Brain, Hanson, Walsh, Collins, James, Birchall, Reid, Dinning (Smith 46), Innes, Paynter, Lowndes (Matthews 71).
Eilyddion: Goodlad, Rowland, Brown.
Wrecsam: Foster, Morgan, Lawrence, Pejic, Holt (Smith 60), Williams, Ferguson, Crowell, Edwards, Llewellyn, Ugarte.
Eilyddion: Armstrong, Sam, Harrison, Bennett.
Dyfarnwr: A Hall (Canolbarth Lloegr).