|
Anafiadau'n poeni Wrecsam
08 Ebrill 2005
Mae Wrecsam yn poeni am anafiadau i dri o'u chwaraewyr allweddol cyn rownd derfynol Tlws yr LDV yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sul.
Mae'r asgellwr, Carlos Edwards (ffer), yr amddiffynnwr, Craig Morgan (llinyn ei âr) a'r chwaraewr canol cae, Mark Jones (cefn), wedi methu ymarfer ddydd Iau.
Dywedodd y rheolwr, Denis Smith, wrth ei dîm i anghofio am eu hofnau o ddisgyn allan o'r adran er mwyn canolbwyntio ar y rownd derfynol a'r diwrnod yng Nghaerdydd.
"Rydym wedi ennill yr hawl i fwynhau'r gêm â Southend," meddai Smith.
"Mae'n rhaid i ni fynd allan a chael perfformiad da ddydd Sul, yna gallwn fynd yn ôl i boeni am y gwaith caled o aros i fyny."

|