bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Smith eisiau cefnogaeth y Cymry

08 Mawrth 2005

Mae rheolwr Wrecsam, Denis Smith, wedi galw ar Gymru gyfan i gefnogi'r Dreigiau yn rownd derfynol Tlws yr LDV yn Stadiwm y Mileniwm ar 10 Ebrill.

"Bydd yn ddiwrnod gwych i bêl-droed Cymreig," meddai Smith wedi ei dîm drechu Oldham 6-3 dros ddau gymal.

"Byddwn yn hoffi gweld cefnogwyr Caerdydd ac Abertawe a phobl o'r canolbarth yn dod draw i'n cefnogi.

"Mae'n hyfryd cyrraedd unrhyw rownd derfynol, ond bydd mynd â chlwb Cymreig i'r Mileniwm y arbennig."

A chredai Smith fod y fuddugoliaeth am ysbrydoli ei garfan i esgyn o waelodion y gynghrair, gan ddechrau wrth groesawu Oldham yn ôl i'r Cae Ras ddydd Sadwrn.

"Roeddem yn llawn haeddu ennill ac mae'n hwb i'r chwaraewyr wrth i ni baratoi am ddiwrnod mawr arall ddydd Sadwrn."

A roedd is-reolwr y clwb, Kevin Russell, hefyd yn credu fod y fuddugoliaeth am fod yn hwb enfawr i'r garfan.

Dywedodd wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru: "Rydym yn haeddu'r fuddugoliaeth, rwyf mor falch dros yr hogia a byddwn yn gallu mynd (i Stadiwm y Mileniwm) a mwynha'r diwrnod.

"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn ond i fod yn deg i'r chwaraewyr maent wedi bod yn wych.

"Dim ond un colled rydym wedi ddioddef mewn 13 gêm a rwy'n ffyddiog gallwn osgoi disgyn allan o'r adran," ychwanegodd.

Roedd capten y clwb, Brian Carey, hefyd wrth ei fodd wedi'r canlyniad nos Fercher.

"Mae'n noson wych," meddai'r amddiffynnwr canol, sydd wedi anafu ar hyn o bryd.

"Nid oes unrhyw reswm pam na gallwn drechu (Oldham) ddydd Sadwrn, rwy'n sicr ein bod â'r gallu i aros i fyny."







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy