Hartlepool 4-6 Wrecsam
05 Mawrth 2005
Sgoriodd Juan Ugarte bum gôl wrth i Wrecsam sicrhau tri phwynt gwerthfawr mewn gêm anhygoel yn Hartlepool.
Yr oedd y gwr o wlad y Basg wedi sgorio tair yn yr hanner cyntaf, gan gynnwys cic o'r smotyn, cyn ychwanegu dwy yn yr ail hanner.
Hartlepool oedd wedi mynd ar y blaen drwy gic rydd cynnar Gavin Strachan gyda Joel Porter hefyd yn sgorio i'r tîm cartref yn ystod yr hanner cyntaf.
Sgoriodd Porter ei ail gôl yn yr ail hanner gyda Adam Boyd hefyd ar y marc gyda'r sgôr yn gyfartal, 4-4, cyn i Mark Jones roi'r ymwelwyr ar y blaen unwaith yn rhagor gyda pedair munud yn weddill.
Daeth pumed gôl Ugarte yn y funud olaf ar brynhawn anhygoel iddo ef a'i dîm yn Hartlepool.
Hartlepool: Konstantopoulos, Barron (Daly 82), Clark (Robson 46), Nelson, Brackstone, Williams, Strachan, Sweney, Humphreys, Boys, Porter.
Eilyddion: Provett, Appleby, Istead.
Wrecsam: Foster, Edwards, Lawrence, Roberts, Pejic, Holt, Crowell, Ferguson, Mark Jones (Green 86), Ugarte, Llewellyn (Sam 90).
Eilyddion: Spender, Done, Harrison.
Dyfarnwr: K Friend (Sir Gaerlyr)