Argyfwng golwyr i Wrecsam
06 Chwefror 2005
Un golwr iach sydd gan Wrecsam wedi'r chwaraewr ifanc, Michael Jones, dorri ei fraich mewn damwain ar y maes ymarfer.
"Arbedodd ergyd gan Juan Ugarte welodd ei arddwn yn mynd am yn ôl a thorri ei fraich, felly mae allan am sawl mis," meddai rheolwr Wrecsam, Denis Smith.
Mae Smith yn gobeithio bydd Andy Dibble yn ôl o'r anaf i'w glun cyn bo hir.
Mae'n sefyllfa gymleth i Wrecsam geisio arwyddo chwaraewyr newydd gan fod y clwb yn nwylo'r gweinyddwyr felly yn y cyfamser bydd rhaid i Smith ddibynu ar Ben Foster.
Mae'r golwr 21-mlwydd-oed wedi plesio ers symud i'r Cae Ras ar fenthyg o Stoke ym mis Ionawr."Rwyf wedi defnyddio chwe golwr tymo yma ac ar y funud mae'n ddadl rhwng [y chwaraewr canol cae] Scott Green a'r [ymosodwr] Hector Sam am pwy fydd yn eistedd ar y fainc," meddai Smith wrth BBC Cymru."Y peth cyntaf fydd rhaid i mi wneud yw gweld os fydd Dibble yn holliach erbyn wythnos nesaf.
"Os na fydd yn barod bydd rhaid i mi fentro ag un golwr, fel y gwnaethom yn Walsall, neu ceisio dod â golwr arall i fewn.
"Ond hyd yn oed pe byddwn eisiau gwario 5c mae'n rhaid i mi fynd ger bron y gweinyddwyr, y gynghrair ... a'r Cenhedloedd Unedig, dwi'n credu!"
Mae clybiau sydd yn nwylo'r gweinyddwyr wedi eu gwahardd rhag arwyddo chwaraewyr newydd, ond fe all y Gynghrair Bêl-droed wneud eithriad ar gyfer safle arbenigol y golwr.
Mae Wrecsa eisoes wedi cymryd mantais o'r rheol gyda Foster yn arwyddo yn ogystal â'r Sbaenwr, Xavier Valero.