Wrecsam yn agos i gael ei werthu
25 Ionawr 2005
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dod gam yn agosach at gael ei werthu i wr busnes o Surrey, Andrew Smith.
Mae Smith, prif weithredwr cwmni United Plotowner Associates, wedi cytuno i brynnu'r 78% o gyfranddaliadau'r Dreigiau sydd berchen i'r cyn gadeirydd, Alex Hamilton.
Mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys trosglwyddo rhydd-ddaliad Y Cae Ras.
"Dyma'r newyddion da cyntaf rydym wedi ei gael ers amser maith," meddai ysgrifennydd y clwb, Geraint Parry, wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.
Mae cefnogwyr Wrecsam wedi bod yn annog Hamilton i werthu ei gyfranddaliadau ers iddo ddatgan ei gynlluniau i daflu'r clwb oddi ar Y Cae Ras.Bu bron i 200 o gefnogwyr Wrecsam yn gorymdeithio heibio cartref Hamilton ger Manceinion fore Sadwrn er mwyn protestio yn erbyn ei gynlluniau i ddatblygu tai ar gartref y clwb.
Mae Smith hefyd yn ddatblygwr tir ond mae wedi sicrhau'r cefnogwyr byddai'r clwb yn parhau i chwarae ar Y Cae Ras.
Dywedodd datganiad ar ran Hamilton a Smith: "Mae Mr. Smith yn credu fod (y cytundeb) yn sicrhau dyfodol Wrecsam ar faes Y Cae Ras am y dyfodol rhagweladwy.
"Mae'r cytundeb yn ddibynnol ar gyfnewid cytundebau ac mae disgwyl gwneud hynny o fewn 21 diwrnod. Mae'r cytundeb hefyd yn ddibynnol ar sêl bendith credydwyr Wrecsam."
Mae Wrecsam yn nwylo'r gweinyddwyr ers fis Rhagfyr wedi Adran Cyllid y Wlad geisio dirwyn y clwb i ben yn yr Uchel Lys oherwydd dyled o bron i £1m.