Cadeirydd Wrecsam yn ymddiswyddo
29 Hydref 2004
Mae trafferthion yn parhau yng nghlwb Pêl-droed Wrecsam wrth i gadeirydd y clwb ymddiswyddo.
Ddydd Gwener daeth cadarnhad bod cyfrifon banc clwb y Cae Ras wedi cael eu rhewi a bod Alex Hamilton wedi cynnig ei ymddiswyddiad.
Ond wrth i arbenigwyr methdaliad gael eu galw mewn i ddatrys yr anghydfod mae'n bosib y bydd Mr Hamilton yn ail ystyried.
Mae llefarydd ar ran y clwb wedi cadarnhau y bydd y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Hull City yn dal ymlaen ar y Cae Ras.
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb y bydd chwaraewyr y clwb sydd yn yr Adran Gyntaf yn cael eu talu'n hwyr. Ddydd Iau cafodd y trydan ei dorri am rai oriau oherwydd nad oedd taliadau wedi cael eu gwneud.

> mwy o fanylion ar BBC Cymru'r Byd