Wrecsam 1-1 Peterborough
26 Hydref 2004
Llwyddodd Dennis Lawrence i achub pwynt i Wrecsam â gôl hwyr yn erbyn Peterborough ar Y Cae Ras.
Roedd Callum Willock wedi rhoi Posh ar y blaen o gic cornel Andy Legg wedi camgymeriad erchyll gan amddiffyn Wrecsam.
Safodd y golwr a'r amddiffyn yn stond a chaniatau i'r ymosodwr rwydo yn hawdd o dri llath.
Ond llwyddodd Dennis Lawrence i rwydo trwy coedwig o goesau wedi 87 munud sicrhau pwynt i'r Dreigiau.
Wrecsam: Baker, Pejic, Roberts, Lawrence, Spender, Crowell,Ferguson, Smith, Holt, Sam, Llewellyn.
Eilyddion: Armstrong, Morgan,Jones, Mackin, Evans.
Peterborough: Tyler, Burton, St. Ledger, Ireland, Newton, Boucaud, Sonner, Legg, Kennedy, Platt, Willock.
Eilyddion: Jenkins, Clarke, Thomson, Jelleyman, Logan.
Dyfarnwr: E Ilderton (Tyne & Wear)