Hwyl yn Helsinki
Yn Stadiwm Olympaidd Helsinki roedd cefnogwyr Cymru wrth eu bodda.Roedd Cymru wedi sgorio'r gôl gyntaf yn erbyn Y Ffindir yn groes i lif y chwarae a roedd y Cymry yn bloeddio eu cymeradwyaeth.
Ond, wyth gôl ac 80 o funudau'n ddiweddarach roedd clochdar y Cymru wedi hen ddiflannu wrth i'r Ffindir orffen y gêm â buddugoliaeth o 7-2.
Na, nid y gêm fawr nos Sadwrn mohoni, diolch ir drefn, ond gêm rhwng cefnogwyr Cymru a chefnogwyr Y Ffindir chwaraewyd fore Sadwrn ar y maes ymarfer yn y Stadiwm Olympaidd.
Roedd yn foment hanesyddol i dîm cefnogwyr Cymru wrth i'r criw brith o bob cwr o Gymru ymlwybro i'r cae am y tro cyntaf erioed.
Cyn yr anthemau roedd y chwaraewyr yn prysur gyflwyno eu hunain i'w cydchwaraewyr a roedd cryn ddadlau ynglyn a pwy oedd yn chwarae ym mha safle!
Roedd y gêm wedi ei threfnu gan un o gefnogwyr pybyr tîm cenedlaethol Cymru, Phil Olyott o Aberystwyth, â chymdeithas cefnogwyr y Ffindir.
A chyda nifer fwy o gefnogwyr Cymru yn troi allan i weld y cefnogwyr na theithiodd i Valkeakoski y noson gynt i wylio'r tîm dan-21 roedd pwysau mawr ar ysgwyddau'r hogia.
Ond roedd un broblem fawr, fel yr esboniai Dylan Llewelyn (Canol Cae - Nefyn Youths).
"Mae'r hen, hen ddadl yn wir gyda'r cefnogwyr yr un peth â'r tîm cyntaf - clwb neu wlad," meddai.
"Ac yn anffodus mae'r rhan fwyaf o'r cefnogwyr wedi dewis y clwb ... nos!"
Sylwadau powld gan gefnogwr oedd yn eistedd ar ochr y cae yn llowcio seidr gellyg a chreision.
Ond efallai dyna pam fod y Ffindir wedi llwyddo i sgorio saith gôl cyn i'r Cymry allu ychwanegu at eu gôl gyntaf - hynny, ar ffaith bod rhif 8 y Ffindir wedi chwarae pêl-droed i dîm yn nhrydedd adran y Ffindir!
Yn hwyrach ymlaen yn y dydd roedd 2,000 a mwy o Gymru wedi ymgynnull ym mhrif faes Stadiwm Olympaidd Helsinki.
Roedd yno Ddreigiau Coch o bob cwr o Gymru, o Gaergybi i Gasnewydd, o Lanelli i Lanfairpwll ac o Dreffynnon i'r Drenewydd a roedd y disgwyliadau yn uchel.
Wedi'r gôl gyntaf gan John Hartson cafwyd eiliad o ddistawrwydd annaearol cyn i'r fyddin goch ben arall y maes ffrwydro.
Wedi i mi ddarganfod fy sbectol a gorffen cofleidio pawb o nghwmpas roedd y pesimistiaid yn ein mysg, hynny yw, pawb sydd wedi dilyn Cymru dramor dros y blynyddoedd, yn dechrau dweud ei fod yn rhy gynnar i ddathlu.
Rwyf wedi bod yn dyst i ormod o berfformiadau diflas dramor i ddechrau canu
"Jingle bells, jingle bells,
Jingle all the way,
Oh what fun it is to see,
Wales win away."
Yn enwedig gan fod tri chwarter awr a mwy o'r gêm yn weddill!
Ond, roedd clywed 2,000 o gefnogwyr yn cydganu Gwyr Harlech yn gyrru ias oer i lawr fy nghefn - a phan sgoriodd Simon Davies ail gôl Cymru aeth y lle yn honco bost.
Cefais fy hyrddio ymlaen tua phum rhes gan lanio ar ben gwr mewn crys coch yn gafael mewn morfil llawn gwynt.
Wedi cofleidio'r gwr a chusanu'r morfil, brwydrais fy ffordd yn ôl i'm sêt i ailddechrau cofleidio fy ffrindiau - yn wir roedd un â dagrau yn rhedeg i lawr ei wyneb.
Wir i chi - tydi teimladau fel hyn ddim iw cael wrth wylio'r gêm ar y teledu.
Ar y chwiban olaf, aethom yn wallgof - roeddem wedi ennill ... dramor ... or diwedd.
Roeddem ar frig ein grwp gan nad oedd Yr Eidal wedi chwarae eu gêm yn erbyn Azerbaijan ar y pryd!
O'r diwedd roeddwn yn gallu canu Jingle Bells!
Wedi derbyn cymeradwyaeth gan gefnogwyr a stiwardiaid y Ffindir ar y ffordd allan o'r stadiwm roedd yn amser dathlu yn un o ddinasoedd hyfrytaf Ewrop.
A dathlu wnaethon ni.
Tydi Helsinki erioed wedi gweld y fath ddathlu gyda Cymry gorfoleddus ym mhobman.
Gan obeithio rwan y cawn dorri tir newydd tebyg yn Baku fis Tachwedd.