Dilyn Cymru yn Croatia
23 Awst 2002
Tydi dilyn tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru byth yn hawdd, ond gyda'r gêm yng Nghroatia wedi ei lleoli yn nhref fechan Varazdin yng ngogledd ddwyrain y wlad, yn ogystal â'r ffaith ei bod wedi ei threfnu ar gymaint o fyr rybudd, roedd y daith yma yn fwy cymhleth na'r arfer i'r criw dethol o gefnogwyr sydd yn dilyn Cymru dramor.Penderfynodd deg ohonom hedfan i Klagenfurt yn Awstria a llogi ceir i deithio trwy Slofenia a Croatia er mwyn cael gweld rhywfaint ar yr hen Yugoslafia - ac am ei fod yn rhad ofnadwy.
A dyna pam fo tri char â rhifau cofrestru lleol wedi eu parcio mewn safle bws llai na hanner milltir o faes awyr Klagenfurt gyda thri dyn mewn crysau coch â throwsus byr yn syllu'n syn ar fap o'r ardal.
Unwaith yr oeddwn wedi canfod y lôn gywir ac arfer â gyrru ar yr ochr dde - hynny yw, arfer â newid gêr yn hytrach nag agor y ffenest - roedd y daith yn un bleserus iawn trwy un o rannau mwyaf hyfryd canol Ewrop.
Mae'n anodd credu bod y gwledydd yma yn rhyfela cwta ddeng mlynedd yn ôl.
Datganodd cynulliad Slofenia ei hannibyniaeth o Yugoslafia ym 1991 yn dilyn ymosodiad Serbia ar ardal Kosovo.
Ymosododd milwyr o Belgrade ar ffiniau'r wlad newydd ond fe'u synnwyd gan fyddin fechan deyrngarol Slofenia a phenderfynodd Belgrade ganiatáu annibyniaeth.
Roedd y rhyfel wedi para 10 diwrnod a chollodd 66 o bobl eu bywydau.
Wedi treulio noson bleserus mewn bar ar bwys Afon Dava ym Maribor, ail ddinas Slofenia, roedd yn amser teithio draw i Croatia.
Er bod Slofenia a Croatia wedi bod yn rhan o Yugoslafia hyd at 1991 roeddent yn ardaloedd hunan llywodraethol o fewn y ffederasiwn ac mae gwahaniaethau amlwg rhwng y ddwy wlad.
Yn un peth mae'r ieithoedd yn hollol wahanol a thra bo Slofenia wedi bod yn edrych tua'r gorllewin ers blynyddoedd wrth rannu ffin â'r Eidal ac Awstria, roedd Croatia yn ardal lewyrchus iawn o fewn y ffederasiwn gyda 90% o'r ardaloedd twristiaeth yn disgyn o fewn ei ffiniau.
Ers diwedd y rhyfel mae gwledydd Slofenia a Croatia wedi closio gyda'r ffaith bod tîm cenedlaethol Croatia yn paratoi ar gyfer y gêm yn Slofenia yn profi hynny.
Varazdin yw cartref FC Varteks, tîm digon llwyddiannus yng Nghroatia, ond yn anffodus mae'r rhan fwyaf o gefnogwyr pêl-droed y wlad yn dilyn un o ddau dîm; Dinamo Zagreb neu Hadjuk Split - roedd yn dorcalonnus gweld cymaint o bobl leol mewn crysau Hadjuk a Dinamo, yn union fel gweld plant mewn crysau Manchester United ar hyd a lled gogledd Cymru.
Wedi cyrraedd Varazdin roedd ymweliad â'r maes yn hanfodol.
Roedd y stadiwm yn arwydd o ddifaterwch y bobl leol gan mai 10,500 o seddi sydd yn y stadiwm, ond mae'r bobl sydd yn cefnogi'r clwb yn falch iawn ohoni.
Wedi i un o swyddogion y clwb ddarganfod ein bod wedi teithio draw o Gymru cawsom daith ddifyr iawn o amgylch y stadiwm, gan gynnwys yr ystafelloedd newid, ystafell y cyfarwyddwyr ac un o'r ystafelloedd cwpanau mwyaf arbennig yr wyf erioed wedi ei weld, er gwaetha'r ffaith nad oedd y gŵr yn siarad gair o Saesneg.
Roedd y swyddog yn nodweddiadol o bobl tref Varazdin. Roedd y cyhoedd yn groesawgar iawn gan nad oes llawer iawn o dwristiaid yn ymweld â'r rhan yma o'r wlad ac roedd nifer fawr o gyfnewid crysau, sgarffiau a hetiau yn mynd ymlaen cyn ac ar ôl y gêm.
O ia ... y gêm ... wel, cafodd y 42 o gefnogwyr o Gymru'r fraint o weld un o'r goliau gorau erioed gan ŵr mewn crys Cymru wrth i Simon Davies ddawnsio trwy amddiffyn Croatia cyn rhwydo.
Ond roeddem yn dyst i gamgymeriad erchyll gan y golwr Paul Jones i adael i Croatia unioni'r sgôr ac ymestyn y nifer o fisoedd ers i mi weld buddugoliaeth oddi cartref i 63 ...
... o wel, mae trip i Helsinki ar y gweill ym mis Medi!