'Rooney yn haeddu'r cerdyn coch'
15 Medi 2005
Roedd ymosodwr Manchester United yn haeddu cael ei ddanfon o'r maes yn erbyn Villarreal meddai ei reolwr, Syr Alex Ferguson.
Cafodd Rooney ei yrru o'r cae am gymeradwyo'r dyfarnwr Kim Milton Nielsen yn goeglyd ar ôl iddo dderbyn y cerdyn melyn.
"Allwch chi ddim gymeradwyo'r dyfarnwr yn y modd yna," meddai Ferguson.
"Oeddwn yn meddwl ei fod wedi cyffwrdd yn y dyfarnwr, ond yn amlwg cafodd ei ddanfon o'r maes am ei gymeradwyo," meddai.
Mae tymer Rooney wedi cael sylw mawr yn ddiweddar ac roedd yn ffodus i osgoi derbyn y cerdyn coch pan gollodd Lloegr yn erbyn Gogledd Iwerddon wythnos ynghynt.
Roedd Ferguson yn cyfaddef bod yn rhaid i Rooney fod yn ddisgybledig ar y maes pêl-droed.
"Mae'n 19 mlwydd oed ac yn gymeriad tanllyd. Rydym yn gobeithio wrth iddo aeddfedu y bydd hynny'n diflannu.
"Yr ydym eisiau iddo gadw'r elfennau da ac cael gwared o'r arferion drwg," ychwanegodd y rheolwr.
Roedd rhagor o newyddion drwg i Ferguson pan fydd rhaid i'r amddiffynnwr Gabriel Heinze adael y maes oherwydd anaf.
Y tebygrwydd yw y bydd yr Archentwr allan am rai wythnosau ar ôl dioddef anaf i'w ben-glin.