Arsenal 2-1 FC Thun
14 Medi 2005
Llwyddodd Dennis Bergkamp i sgorio'r gôl fuddugol wrth i Arsenal fachu'r pwyntiau yn hwyr yn y gêm yn erbyn FC Thun yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Rhwydodd Bergkamp ag eiliadau'n unig yn weddill o'r gêm wrth osgoi Ljubo Milicevic cyn pasio'r bêl heibio Eldin Jakupovic.
Yn gynharach cafodd Robin van Persie gerdyn coch wedi iddo daro Alen Orman yn ei wyneb â'i droed.
Llwyddodd Gilberto i roi Arsenal ar y blaen cyn i groesiad Nelson Ferreira hedfan dros Manuel Almunia er mwyn dod â Thun yn gyfartal.
Arsenal: Almunia, Lauren, Toure, Campbell, Cole, Ljungberg (Hleb 80), Silva, Fabregas (Bergkamp 72), Pires, Reyes (Owusu-Abeyie 80), Van Persie.
Eilyddion: Poom, Song Billong, Clichy, Senderos.
FC Thun: Jakupovic, Orman, Hodzic, Milicevic, Goncalves, Gerber (Leandro 72), Bernardi, Adriano (Gelson 57), Aegerter, Ferreira, Lustrinelli (Faye 87).
Eilyddion: Portmann, Duruz, Spadoto.
Dyfarnwr: Grzegorz Gilewski (Gwlad Pwyl).