bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lerpwl yn bencampwyr Ewrop

25 Mai 2005

Lerpwl oedd yn fuddugol yng Nghynghrair y Pencampwyr wedi ciciau o'r smotyn mewn gêm anhygoel yn Istanbul wrth i Serginho, Andrea Pirlo ac Andriy Shevchenko fethu o 12 llath.

Rheolwyd yr hanner cyntaf yn llwyr gan y gwyr o Milan a rhwydodd Paolo Maldini wedi 50 eiliad yn unig cyn i Hernan Crespo ychwanegu dwy gôl hyfryd i'r Eidalwyr cyn yr egwyl.

Ymddengys fod gobeithion Lerpwl ar ben ond peniodd Steven Gerrard i gefn y rhwyd wedi 53 munud cyn i goliau gan Vladimir Smicer a Xabi Alonso ddod â'r Cochion yn gyfartal.

Ac wedi hanner awr ychwnaegol di-sgôr llwyddodd Dietmar Hamann, Djibril Cisse a Vladimir Smicer i sicrhau fod Lerpwl yn cipio'r tlws am y pumed tro wrth rwydo o'r smotyn.

Roedd yn ddiweddglo gwych i gêm anhygoel wrth i Lerpwl ddod yn ôl o hanner cyntaf trychinebus.

Roedd yn sioc bod y Cochion wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y lle cyntaf wrth drechu Juventus a Chelsea ar y ffordd i Istanbul.

A roedd cefnogwyr Lerpwl yn benderfynol o fwynhau'r achlysur gyda llawer iawn mwy na'r 20,000 swyddogol wedi llwyddo i gael sedd yn Stadiwm Ataturk.

Cafwyd penderfyniad dewr gan reolwr Lerpwl, Rafael Benitez, wrth iddo adael Dietmar Hamann ac Igor Biscan allan o'r tîm er mwyn cynnwys Harry Kewell.

Roedd yn benderfyniad sâl wrth i Lerpwl gael 45 munud agoriadol gwarthus.

Aeth Milan ar y blaen yn y funud agoriadol wrth i Maldini benio cic rydd Pirlo heibio Dudek.

Roedd diffyg chwaraewr amddiffynol yng nghanol cae Lerpwl yn caniatau Milan i garlamu heibio Gerrard ac Alonso.

A roedd halen yn y briw i Benitez wrth i Kewell orfod adael y maes ag anaf wedi 22 munud, gyda Vladimir Smicer yn cymryd ei le.

Gyda'r hanner cyntaf yn dirwyn i ben llwyddodd Milan i ymestyn eu mantais â dwy gôl yn y chwe munud olaf o'r hanner.

Torodd Shevchenko i lawr yr asgell dde cyn croesi i Crespo rwydo o bum llath.

A phedair munud yn ddiweddarach llwyddodd Kaka i ganfod Crespo â phas athrylithgar a cododd y gŵr o'r Ariannin y bêl dros ben Dudek.

Cafwyd newid ar yr egwyl wrth i Benitez ddod â Hamman i'r maes wedi Steve Finnan ddioddef anaf i'w glun.

Cafwyd llygedyn o obaith i Lerpwl wrth i Grrard beniocroesiad John Arne Riise i ngefn y rhwyd wedi 53 munud, a llwyddodd Smicer i rwydo munud yn ddiweddarach wedi Dida fethu ag arbed ei ergyd.

A chwblhawyd y sgorio wedi awr wrth i Rino Gattuso lorio Gerrard yn y cwrt cosbi.

Arbedodd Dida gic Alonso ond llwyddodd y Sbaenwr i daro'r bêl i do'r rhwyd cyn i amddiffyn Milan symud.

Wedi hanner awr o amser ychwanegol welodd Dudek yn arbed yn anhygoel o ddwy ergyd gan Shevchenko, y golwr o Wlad Pwyl oedd yr arwr.

Methodd Serginho a Pirlo y ddwy gic gyntaf i Milan, tra bo Hamann a Cisse wedi rhwydo i Lerpwl.

Rhwydodd yr eilydd, Jon Dahl Tomasson, i sgorio i Milan cyn i Riise fethu cic i Lerpwl.

Sgoriodd Kaka i Milan, ac wedi Smicer rwydo i Lerpwl, llwyddodd Dudek i arbed cic Shevchenko er mwyn gychwyn y parti ar Lannau Merswy.


AC Milan: Dida, Cafu, Stam, Nesta, Maldini, Pirlo, Seedorf, Kaka, Gattuso, Crespo, Shevchenko.

Eilyddion: Abbiati, Kaladze, Costacurta, Rui Costa, Tomasson, Dhorasoo, Serginho.

Lerpwl: Dudek, Finnan, Carragher, Hyypia, Traore, Luis Garcia, Gerrard, Xabi Alonso, Riise, Kewell, Baros.

Eilyddion: Carson, Cisse, Smicer, Hamann, Josemi, Nunez, Biscan.

Dyfarnwr: Manuel Enrique Mejuto Gonzalez (Sbaen)







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy