bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Bellamy'n ymuno â Celtic

31 Ionawr 2005

Mae Craig Bellamy wedi ymuno â chewri'r Alban, Celtic, ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.

Roedd y Cymro wedi gwrthod cynnig i swymud i Birmingham City wedi ffraeo â rheolwr y Magpies, Graeme Souness.

Ac er nad oedd Celtic yn gallu gwneud cynnig o £6m fel Birmingham roedd Newcastle yn fodlon ei fenthyg hyd at ddiwedd y tymor.

Bydd Bellamy yn ymuno â'i gyd ymosodwr o dîm rhyngwladol Cymru, John Hartson yn y llinell flaen i Celtic.

"Mae Celtic wrth eu bodda cael cyhoeddi fod ymosodwr Newcastle United, Craig Bellamy, wedi ymuno â'r clwb ar fenthyg hyd at ddiwedd y tymor wedi prawf meddygol," meddai datganiad swyddolgol.

Roedd Bellamy yn sydyn iawn i ganu clod ei reolwr newydd, Martin O'Neill, wedi cwblhau ei drosglwyddiad i'r Alban.

"Pan fo clwb fel Celtic yn dangos diddordeb, rydych yn talu sylw," meddai.

"Yn draddodiadol, mae'r clwb yma yn wych yn ogystal â'r rheolwr."

Ychwanegodd O'Neill: "Rwyf wrth fy modd i arwyddo Craig. Mae'r opsiwn gennym i'w arwyddo yn barhaol ar ddiwedd y tymor."

Cafodd Bellamy ddirwy o pythefnos o gyflog gan Newcastle wedi iddo gyhuddo Souness o ddweud celwydd mewn cyfwleiad teledu.

Dywedodd Souness: "Ni all chwarae i mi byth eto. Mae wedi bod yn ddylanwad drwg ers yr eiliad i mi gyrraedd.

"Ni all fynd ar deledu a fy nghyhuddo o ddweud celwydd."

Mae cadeirydd Newcastle, Freddy Shepherd, wedi disgrifio ymddygiad Bellamy o fod yn "amhroffesiynol ac annerbyniol".

Dechreuodd Bellamy ei yrfa â Norwich gan sgorio 34 gôl mewn 91 ymddangosiad dros bedair tymor cyn symud i Coventry yn 2000 ac yna ymlaen i'r Magpies.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy