bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Anrhydedd i Ronaldinho

Ronaldinho yn derbyn ei wobr gan Sepp Blatter

20 Rhagfyr 2004

Ymosodwr Barcelona, Ronaldinho, gipiodd gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Fifa am 2004.

Llwyddodd y gwr 24-mlwydd-oed i ennill ar draul Thierry Henry o Arsenal ac ymosodwr AC Milan, Andriy Shevchenko.

Ronaldinho enillodd y bleidlais gan hyfforddwyr a chapteiniaid timau rhyngwladol gyda 620 pwynt, tra bo Henry â 552 gyda Shevchenko yn casglu 253.

"Mae bod yma yn dod â boddhad mawr i mi. Mae'n fuddugoliaeth wych, gan nad wyf wedi bod yn sgoriwr da erioed," meddai Ronaldinho.

"Ond rydym yn chwarae yn ein ffordd ein hunain a roedd y tri ohonom yn haeddu ennill. Rwyf yn hapusach fyth fy mod wedi ennill.

"Mae'n rhaid i mi ddiolch i fy nghyd chwaraewyr yn Barcelona gan na fyddwn wedi ennill hebddynt."

Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno ar sail pleidlais hyfforddwyr y 157 o gymdeithasau pêl-droed Fifa ac, am y tro cyntaf eleni, 145 o gapteiniaid rhyngwladol.

Cafwyd pum pwynt am enwebiad yn y safle cyntaf, tri am fod yn ail ac un am fod yn drydydd. Cafodd Ronaldinho 89 pleidlais cyntaf, Henry 79 a Shevchenko 34.

Birgit Prinz o'r Almaen gipiodd gwobr y merched am yr ail flwyddyn yn olynol gyda Brasil yn ennill gwobr Tîm y Flwyddyn a China yn cael eu henwi'r tîm sydd wedi gwella fwyaf yn ystod y flwyddyn.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy