bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Azerbaijan 0-1 Lloegr

Michael Owen yn sgorio

13 Hydref 2004

Llwyddodd y capten dros dro, Michael Owen, i rwydo unig gôl y gêm dros Loegr a sicrhau buddugoliaeth yn Baku.

Rhwydodd Owen, oedd yn arwain oherwydd i David Beckham gael ei wahardd, yn dilyn croesiad gan Ashley Cole ar ôl 21 munud.

Mae Lloegr nawr wedi cryfhau eu safle ar frig Grwp 6 wrth geisio ennill eu lle yng Nghwpan y Byd 2006.

Fe benderfynodd hyfforddwr Lloegr Sven-Goran Eriksson i chwarae Jermaine Jenas, o Newcastle, yn safle Beckham.

A fu bron i Loegr ddechrau yn y modd mwyaf delfrydol wrth i Owen benio croesiad Gary Neville ond heibio'r postyn aeth y cynnig.

Mae Azerbaijan wedi magu hyder yn dilyn gemau cyfartal gartref yn erbyn Cymru a Gogledd Iwerddon a fe ddaeth y tîm yn agos ar ôl 11 munud.

Fe ergydiodd Emin Guliyev o bellter gan synnu Paul Robinson yn y gôl. Aeth y bêl modfeddi heibio'r postyn.

Fe gymerodd Lloegr fantais o hynny wrth i Owen benio heibio Jahangir Hasanzade o wyth llath.

Cafodd yr ymwelwyr gic rhydd saith llath o'r gôl wrth i'r ddyfarnwr ddweud fod Hasanadze wedi dal pâs yn ôl iddo gan un o'u chwaraewyr ei hun.

Rhoddodd Nicky Butt y bêl i Wayne Rooney ond fe daniodd yn erbyn y wal.

Yr ochr arall, roedd angen i Robinson arbed wrth draed Samir Aliyev wyth munud ar ôl yr egwyl.

Daeth Lloegr yn ôl wrth i Frank Lampard danio ergyd o 30 llath gan orfodi'r gôl-geidwad i'w throi hi drosodd.

Fe ddaeth Alan Smith ymlaen yn lle Jermain Defoe a chafodd Jenas ei eilyddio gan Shaun Wright-Phillips.

Fe weithiodd Rooney y galed drwy'r gêm wrth geisio cynorthwyo'r ymosodwyr a fu bron iddo sgorio efo cic rhydd ond arbedodd y gôl-geidwad.

Azerbaijan: Hasanzade, Hajiyev, Sadygov, Amirbekov, Shukurov, Kerimov, Emin Guliyev, Kamal Guliyev, Ponomarev, Nabiev, Aliyev.
Eilyddion: Makhmud Gurbanov, Gurban Gurbanov, Mekhtiev, Abbasov, Abdullayev, Mamedov, Ilgar Gurbanov.

Lloegr: Robinson, Gary Neville, Ashley Cole, Butt, Ferdinand, Campbell, Jenas, Lampard, Rooney, Owen, Defoe.
Eilyddion: King, James, Terry, Hargreaves, Joe Cole, Wright-Phillips, Smith.

Dyfarnwr: Alain Hamer (Luxembourg)





Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy