Clough yn marw
20 Medi 2004
Mae cyn reolwr athrylithgar Nottingham Forest a Derby County, Brian Clough, wedi marw o cancr y stumog yn 69-mlwydd-oed.
Bu farw Clough, oedd wedi dioddef â'i iechyd ers rhai blynyddoedd, yn ysbyty Dinas Derby.
Llwyddodd Clough i ennill dau Gwpan Pencampwyr Ewrop â Forest ym 1979 a 1980, a chipiodd y bencampwriaeth ar ddau achlysur.
Roedd yn enwog am ei ffordd ecsentrig o reoli, ond roedd yn uchel iawn ei barch ymysg ei gyd reolwr, chwaraewyr a chefnogwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Ysbyty Dinas Derby: "Mae'n drist iawn gennym gyhoeddi fod Brian Clough wedi marw yn 69 mlwydd oed. "Roedd Brian yn glaf yn Ysbyty Dinas Derby, a roedd ei deulu gydag ef pan bu farw yn yr ysbyty ar Medi 20."
Ychwanegodd, ar ran teulu Clough: "Mae'r teulu am ddiolch o galon i Dr Jan Freeman a staff Ward 30 am y gofal arbennig."
"Yn naturiol, byddai'r teulu yn gwerthfawrogi preifatrwydd ar yr adeg yma ac maent yn gofyn i aelodau o'r wasg i barchu hyn."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Uwchgynghrair yn Lloegr: "Mae'n golled trist i bêl-droed. Roedd llawer yn ystyried Brian Clough yn athrylith ac yn un o'r rheolwyr gorau erioed."
Dechreuodd Clough ei yrfa bêl-droed â'i dîm lleol, Middlesbrough, gan sgorio 204 o goliau mewn 222 gêm a chan ennill dau gap dros Loegr.
Bu rhaid iddo ymddeol yn ifanc oherwydd anaf i'w benglin, ond cafodd yrfa llewyrchus iawn fel rheolwr.
Wedi dod yn reolwr ar Hartlepool yn 30-mlwydd-oed - y rheolwr ieuengaf yn y gynghrair ar y pryd - symudodd Clough i Derby, gan arwain y Rams i'r bencampwriaeth ym 1972.
Wedi ymddiswyddo o Derby, cafodd Clough gyfnodau byr - ac aflwyddiannus - â Brighton a Leeds.
Ond yna cymrodd yr awenau yn Forest a sicrhaodd ei le yn y llyfrau hanes wrth ennill y bencampwriaeth ym 1978, dau Gwpan Ewrop yn olynol a phedair Cwpan y Gynghrair mewn cyfnod o 18 mlynedd.
Arhosodd Clough â Forest tan 1993, gan ymddeol wedi'r clwb ddisgyn allan o'r brif adran.