bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Gwlad Pwyl 1-2 Lloegr

Jermain Defoe

08 Medi 2004

Sgoriodd Jermain Defoe i Loegr wrth iddynt drechu Gwlad Pwyl 2-1 yn Katowice.

Daeth yr ymosodwr o Spurs i fewn i'r tîm yn lle Alan Smith ar gyfer gêm rhagbrofol Cwpan y Byd gyda Paul Robinson yn cymryd lle David James yn y gôl.

Ergydiodd Defoe yn wych i roi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl 36 munud ond unionwyd y sgôr pan daniodd Maciej Zurawski yn nerthol i gefn y rhwyd.

Rhwydodd Lloegr eto ar ôl 57 munud wrth i ergyd Ashley Cole wyro yn erbyn Arkadiusz Glowacki a heibio Jerzy Dudek yn y gôl.

Mae Defoe wedi edrych yn gyfforddus ar y lefel rhyngwladol ond fe wastraffodd gyfle da ar ôl 20 munud.

Fe ddaeth y bêl iddo yn dilyn cyd-chwarae da rhwng Wayne Bridge a Cole ond fe ergydiodd yr ymosodwr heibio'r gôl.

Fe wnaeth yn iawn am hynny naw munud cyn yr egwyl wrth iddo droi yn fedrus yn dilyn pas gan David Beckham cyn tanio heibio Dudek ac i gefn y rhwyd.

Roedd yr amseriad yn berffaith oherwydd roedd Lloegr wedi colli'r amddiffynnwr Gary Neville munudau yn gynt oherwydd iddo dderbyn anaf.

Daeth Jamie Carragher ymlaen yn ei le.

Fe chwaraeodd Gwlad Pwyl yn well ar ôl ildio gan roi pwysau ar yr ymwelwyr am weddill yr hanner.

Fe ddaeth y gôl iddyn nhw tri munud i fewn i'r ail hanner wrth i Zurawski ergydio heibio Robinson yn dilyn pas gan Kamil Kosowski.

Ond nid oedd amser i'w ddathlu wrth i Loegr fynd ar y blaen eto ar ôl 57 munud wrth i Cole ergydio i'r rhwyd oddi ar Glowacki.

Parhaodd yr ymwelwyr i ymosod a daeth Bridge a Michael Owen yn agos i sgorio.

Gwlad Pwyl: Dudek, Mila, Rzasa, Zewlakow, Glowacki, Bak, Rasiak, Krzynowek, Zurawski, Lewandowski, Kosowski.
Eilyddion: Boruc, Klos, Kukielka, Baszcyznski, Niedzielan, Gorawski, Smolarek.

Lloegr: Robinson, Neville, Terry, King, Ashley Cole, Beckham, Lampard, Gerrard, Bridge, Defoe, Owen.
Eilyddion: Carragher, James, Hargreaves, Dyer, Wright-Phillips, Smith, Vassell.

Dyfarnwr: Stefano Farina (Yr Eidal)





Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy