Awstria (dan-21) 0-2 Lloegr (dan-21)
04 Medi 2004
Sgoriodd Carlton Cole ei drydydd gôl yn ei ddwy gêm diwethaf dros dîm dan-21 Lloegr wrth iddyn nhw drechu Awstria o 2-0.
Ar ôl rheoli pas gan Gary O'Neil fe ergydiodd Cole heibio Ramazan Ozcan yn y gôl.
Fu bron i Loegr sgorio eto yn syth ar ôl yr egwyl wrth i Calum Davenport benio ar draws y cwrt ond cafodd peniad Anton Ferdinand ei arbed gan Ozcan.
Gyda'r gêm bron ar ben fe sgoriodd Darren Bent efo ergyd isel.
Hon oedd y gêm gystadleuol gyntaf i'r hyfforddwr Peter Taylor ers iddo ddychwelyd i reoli'r tîm dan-21 am yr ail dro.Awstria (dan-21): Ozcan, Sonnleitner, Lechner, Berger, Prager, Baldauf, Schiemer, Kulovits, Salmutter, Lasnik, Saumel.
Eilyddion: Almer, Osoinik, Mimm, Obster, Konrad, Kienast, Schicker.
Lloegr (dan-21): Carson, Hunt, Ferdinand, Davenport, Baines, Pennant, Reo-Coker, O'Neil, Downing, Cole, Stead.
Eilyddion: Lonergan, Whittingham, Milner, Kilgallon, Hoyte, Ashton, Bent.