bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

TNS yn mynd i'r brig

17 Medi 2005

Methodd Y Drenewydd â chadw eu record 100% wrth iddynt golli 3-1 gartref yn erbyn Aberystwyth ac i rwbio halen i'r briw, maent yn disgyn o frig y tabl wedi buddugoliaeth TNS.

Roedd goliau gan Jonathan Rees, Stuart Roberts a gôl trwy ei rwyd ei hun gan Danny Barton yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl i Aber.

Rhwydodd Marc Lloyd-Williams dair gwaith wrth i TNS drechu Caerfyrddin ar Y Dreflan.

A llwyddodd Paul Roberts i rwydo gôl fuddugol yn y funud olaf yn erbyn ei gyn glwb wrth Fangor drechu Porthmadog 2-1 ar Y Traeth.

Cipiodd Airbus UK eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor oddi cartref diolch i gôl Dave Hughes yn yr ail hanner yn erbyn Caernarfon.

Mae Derwyddon Cefn yn parhau heb fuddugoliaeth wedi gêm ddi-sgôr yn Hwlffordd a chafodd Port Talbot a Chaersws gêm ddi-sgôr ar Heol Victoria.

Llwyddodd Y rhyl i anghofio eu colled yn werbyn Cwmbran wythnos diwethaf wrth chwalu Quins y Grange 5-1 ar Belle Vue.

Ac mae tymor siomedig Llaneli yn parhau wrth iddynt golli 1-0 yn erbyn Cwmbran tra bo'r Trallwng wedi trechu Cei Connah 4-1.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy