bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Uefa yn clirio McGuigan

07 Awst 2005

Mae golwr Y Rhyl, Gerard McGuigan, wedi ei gael yn ddieuog o unrhyw gamymddwyn yn ystod y ffrwgwd ar ddiwedd y gêm ag Atlantas yng Nghwpan Uefa fis diwethaf.

Roedd McGuigan yn wynebu cyhuddiad o ymddygiad amhriodol wedi cael ei gyhuddo o herio rheolwr Atlantas.

Dioddefodd drwyn gwaed wrth i Vacys Lekevicius ymateb yn chwyrn i golled ei dîm a gwrthdaro â chwaraewyr Y Rhyl.

Ond mae pwyllgor disgyblu Uefa wedi cael McGuigan yn ddieuog sydd yn caniatau'r golwr i wynebu FK Viking yn yr ail rownd ragbrofol nos Iau.

Bydd Lekevicius yn wynebu pwyllgor disgyblu ar 18 Awst wedi cael ei gyhuddo o ymddygiad treisgar.

Carlamodd i'r maes ar ddiwedd y gêm ac ymddengys ei fod wedi taro chwaraewr canol cae Y Rhyl, Alan Morgan.

Collodd Y Rhyl y gêm yn Lithiwania 3-2 ond cawsant gamu ymlaen i'r ail rownd ragbrofol diolch i'r rheol goliau oddi cartref.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy