bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Uefa'n cyhuddo McGuigan

06 Awst 2005

Mae Y Rhyl yn wynebu'r posibilrwydd o golli eu golwr, Gerard McGuigan, ar gyfer y gêm â Viking Stavanger yng Nghwpan Uefa nos Iau oherwydd gwaharddiad.

Cafodd y Lillywhites wybod nos Wener fod McGuigan wedi ei gyhuddo o "ymddygiad amhriodol" yn dilyn ffrae ar ddiwedd eu gêm ag FK Atlantas yn ail gymal y rownd ragbrofol gyntaf yn Lithiwania.

Bydd panel disgyblu yn cwrdd dros y penwythnos a phe bai'n ei gael yn euog o'r cyhuddiad bydd yn cael ei wahardd rhag chwarae yn erbyn Viking ar Y Belle Vue nos Iau.

Mae McGuigan wedi ei gyhuddo o herian rheolwr Atlantas, Vacys Lekevicius, wedi'r Rhyl drechu'r tîm o Lithiwania ar y rheol goliau oddi cartref.

Roedd golygfeydd hyll ar ddiwedd y gêm yn Klaipedia ac ymddengys fod Lekevicius wedi pwnio chwaraewr canol cae Y Rhyl, Alan Morgan, yn ei wyneb.

Dioddefodd McGuigan drwyn gwaed yn dilyn ffrwgwd â chwaraewr Atlantas, Aivatas Laurisas, wrth iddo geisio wahanu'r ddau.

Dywedodd rheolwr Y Rhyl, John Hulse, ei fod wedi ei synnu yn fawr o glywed am y cyhuddiad.

"Roedd eu rheolwr angen cyfieithydd pob tro i mi sgwrsio ag ef, felly rwy'n ei chael yn anodd i gredu fod Ged wedi ei herio," meddai Hulse wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.

"Nid oedd (Levekicus) yn siarad gair o Saesneg, na Chymraeg, felly sut fyddai'n deall unrhywbeth hyd yn oed petai Ged wedi dweud unrhywbeth?

"Roedd eu rheolwr fel dyn gwyllt. Nid wyf erioed wedi gweld unrhywbeth tebyg yn ystod fy holl amser yn y byd pêl-droed.

"Cafodd Ged slap yn ei wyneb a thrwyn gwaedlyd a rwan mae nhw'n dweud ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol," ychwanegodd.

Er ei fod yn gandryll â'r penderfyniad, roedd Hulse yn ffyddiog bydd ei golwr ar gael i chwarae yn yr ail rownd ragbrofol nos Iau.

"Bydd y clwb yn ei gefnogi 100% ac os bydd unrhyw waharddiad byddwn yn apelio yn syth.

"Nid wyf yn gallu gweld sut bo Uefa yn gallu gwahardd chwaraewr rhag chwarae heb iddo gael cyfle i bledio ei achos."







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy