bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

FK Atlantas 3-2 Y Rhyl

28 Gorffennaf 2005

Llwyddodd Y Rhyl i gamu ymlaen yng Nghwpan Uefa diolch i'r rheol goliau oddi cartref wedi gêm hynod gyffrous yn erbyn 10-dyn FK Atlantas.

Y tîm cartref gafodd y gôl agoriadol wedi 12 munud wrth i Dainius Zernys rwydo o'r smotyn yn dilyn trosedd gan Jamie Brewerton, ond cafodd Zernys ei hel o'r maes o fewn tri munud am dacl warthus ar Alan Morgan.

Cafodd Greg Stones gôl oddi catref holl bwysig i'r Rhyl wedi 32 munud â pheniad hyfryd ar y postyn pellaf wedi gwaith da rhwng Chris Adamason ac Andy Moran i lawr yr asgell chwith.

Ac er i Aivaras Laurisas ac Andrius Peterikis rwydo dwy gôl hwyr roedd ail gôl oddi cartref Gary Powell yn dyngedfennol a llwyddodd Y Rhyl i ddal ymlaen er wyn sicrhau eu lle yn yr ail rownd ragbrofol.

Roedd golygfeydd hyll ar ddiwedd y gêm wrth i reolwr Atlantas, Vacys Lekevicius, garlamu i'r maes ac ymddengys ei fod wedi gwrthdaro ag amddiffynnwr Y Rhyl, Alan Morgan yn ogystal â'r golwr, Gerard McGuigan.

"Roedd ychydig bach yn frawychus i fod yn onest i weld eu rheolwr yn carlamu tuag ataf," meddai McGuigan wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.

"Ond yr hyn oedd hyd yn oed yn fwy brawychus oedd y ffaith fod eu cefnogwyr wedi cael neidio drosodd i'r maes.

"Roedd yn fater o geisio cyrraedd yr ystafelloedd newid cyn gynted â phosib."

Ar y blaen 2-1 wedi'r cymal cyntaf ar Y Belle Vue, cafwyd y dechrau gwaethaf posib i'r Cymry wrth i Zernys cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan amddiffynnwr Y Rhyl, Jamie Brewerton.

Llwyddodd ymosodwr Atlantas i goi o'r llawr a rhwydo heibio McGuigan o 12 llath i ddod â'r tîm cartref yn gyfartal ar gyfanswm goliau.

Ond tri munud y ddiweddarach cafwyd tacl ddychrynllyd ar Alan Morgan gan Zernys ac nid oedd unrhyw oedi gan y dyfarnwr, Lasha Silagadze o Georgia, wrth iddo estyn y cerdyn coch o'i boced.

Manteisiodd Y Rhyl ar y dyn ychwanegol wrth i Chris Adamason ac Andy Moran gydweitho'n wych i lawr yr asgell chwith cyn croesi i'r amddiffynwr, Greg Stones, rwydo gôl oddi catref holl bwysig â'i ben.

Wedi awr o chwarae cafwyd ail gôl wych i'r Rhyl wrth i Gary Powell danio taran ergyd â'i droed chwith o bas gelfydd Chris Adamason a phrofodd yr ail gôl oddi cartref yn holl bwysig wrth i Atlantas wrthod ag ildio.

Rhwydodd Aivaras Laurisas ac Andrius Peterikis gôl yr un fyddai'n sicrhau diweddglo nerfus iawn i'r Cymry ond llwyddodd gwyr John Hulse i ddal allan a sicrhau eu bod yn yr het ar gyfer yr ail rownd ragbrofol.


FK Atlantas: Briaunis, Deveika, Tolis, Bartkus, Lapeikis, Zukauskas, Petreikis, Navikas, Zernys, Ringys, Ksanavicus.
Eilyddion: Lekevicius, Maciulevicius, Labukas, Zvingilas, Sarunas, Grigaitis, Ramonas.

Y Rhyl: McGuigan, Adamson, M Powell, Horan, Stones, Brewerton, Graves, Limbert, G Powell, Moran, Morgan.
Eilyddion: Taylor, Thompson, Gatfield, Mutton, Davis, Connolly, Billingsley.

Dyfarnwr: Lasha Silagadze (Georgia)







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy