bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Caerfyrddin 5-1 Longford Town

28 Gorffennaf 2005

Llwyddodd Caerfyrddin i sicrhau canlyniad anhygoel er mwyn sicrhau eu lle yn yr ail rowwnd ragbrofol wrth drechu Longford Town o Iwerddon 5-3 dros y ddwy gymal.

Ymddengys fod gobeithion y Cymry ar ben wedi Andrew Myler rwydo o'r smotyn i ddod â Longford yn gyfartal wedi gôl gynnar Danny Thomas.

Ond gwrthododd Caerfyrddin ag ildio gan daro pedair gôl heibio deiliaid Cwpan Iwerddon yn yr ail hanner.

Rhwydodd Gary Lloyd ddwywaith cyn i Thomas ychwanegu ei ail gôl cyn i Nathan Cotterall slio'r fuddugoliaeth 10 munud cyn y diwedd.

Dyma'r canlyniad gorau gan glwb Uwchgynghrair Cymru yn un o gystadlaethau Ewrop a chyda'r Rhyl yn ennill drwodd yn Lithiwania roedd yn noson wych i bêl-droed Cymreig.

Un o'r timau eraill fydd yn yr het ynghyd â Chaerfyrddin a'r Rhyl yn Nyon, Y Swistir ddydd Gwener fydd Dundee United o'r Alban.

Bydd cymal cyntaf yr ail rownd ragbrofol yn cael ei gynnal ar 11 Awst gyda'r ail gymal pythefnos yn ddiweddarach.


Caerfyrddin: Pennock, Hardy, Lloyd, Giles, Richard Carter, Rhodri Jones, Aherne-Evans, Richard Kennedy, Dodds, Daniel Thomas, Smothers.
Eilyddion: Walters, Burke, James, Abdullahi, Cotterall, Turner.

Longford Town: O'Brien, Dillon, Martin, Ferguson, Paisley, Kirby, Fitzgerald, Myler, Davy Byrne, O'Connor, Keegan.
Eilyddion: Alan Murphy, Dessie Baker, Prunty, Cronin, Cawley, Gary Murphy, Kelly.

Dyfarwnr: Jose Mengual Prades (Andorra)br>






Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy