|
Taith i Lithuania i'r Rhyl
24 Mehefin 2005
Bydd y Rhyl yn herio Atlantas o Lithuania yn rownd ragbrofol Cwpan Uefa wedi'r enwau ddod allan o'r het yn Nyon, Swistir ddydd Gwener.
Bydd gwyr John Hulse yn gobeithio am well perfformiad yn eu hail ymddangosiad yn Ewrop wedi crasfa gan Skonto Riga yng Nghynghrair y Pencampwyr llynedd.
Mae Atlantas, sydd yn drydydd yng Nghynghrair Lithuania, wedi chwarae yn Nghwpan Uefa ar dair achlysur yn y gorffennol gan golli pob gêm.
Bydd y cymal cyntaf ar Belle Vue ar 14 Gorffennaf gyda'r ail gymal yn Lithiwania pythefnos yn ddiweddarach.

|