TNS i herio Lerpwl
24 Mehefin 2005
Bydd pencampwyr Cymru, Total Network Solutions, yn herio Lerpwl yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.
Daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer y rownd gyntaf ac ail rownd rhagbrofol o Gynghrair y Pencampwyr am 1100 BST yn Nyon, Swistir, ddydd Gwener.
Roedd perchennog TNS, Mike Harris wrth ei fodd â'r newyddion: "Mae hyn yn newyddion gwych a rydym yn edrych ymlaen i chwarae prif dîm Ewrop," meddai.
"Yr unig beth drwg yw ei bod yn mynd i fod yn anodd i gamu ymlaen, ond rwy'n siwr bydd y tîm am wneud eu gorau glas."
> Caerfyrddin i herio'r Gwyddelod
> Taith i Lithiwania i'r Rhyl
"Mae hyn fel breuddwyd - tîm o bentref bach yng Nghymru yn herio pencampwyr Ewrop," meddai rheolwr TNS, Ken McKenna, sydd yn gefnogwr brwd o glwb Everton."Byddai'n well gen i fod wedi cael gêm haws er mwyn bod yn y gystadleuaeth pa fo'r clybiau mawr fel Everton yn dod i fewn yn y drydedd rownd!" chwarddodd.
Dywedodd rheolwr cyffredinol TNS, Ian Williams: "Mae'n wych i ni gan fod y clwb yn mynd i gael sylw yn y wasg led led Ewrop yn ogystal â sicrhau fod TNS yn mynd i gael arian o'r gêm.
"Gyda Lerpwl yn yr het roedd mwy o sylw ar y rhan yma o'r gystadleuaeth nac erioed o'r blaen ac mae hyn yn mynd i sicrhau fod TNS ac Uwchgynghrair Cymru yn cael sylw'r wasg, ac mae hynny'n siwr o fod yn beth da."
Roedd prif weithredwr Lerpwl, Rick Parry, hefyd y hapus iawn fod Lerpwl yn herio pencampwyr Cymru.
"Mae'n dda i'r ddau dîm ac mae'n gêm sydd yn dal y dychymyg ac yn llawn rhamant," meddai.
"Roedd y ddau dîm wedi sgwrsio cyn i'r enwau ddod allan o'r het a roeddem yn gytun byddai'n dda petawn yn chwarae yn erbyn ein gilydd.
"Y peth pwysicaf i (Lerpwl) oedd ein bod yn gallu chwarae'r gemau cyntaf heb orfod teithio'n rhy bell."
Bydd y cymal cyntaf yn Anfield ar 12/13 Gorffennaf gyda'r ail gymal yn debygol o fod ar Y Cae Ras, Wrecsam.
Bydd ennillwyr y cymal yn herio HB o Ynysoedd y Faroe neu'r tîm o Lithuania, Kaunas, yn yr ail rownd ragbrofol.
Rownd Rhagbrofol Cyntaf Cynghrair y Pencampwyr
Lerpwl v TNS
FC Haka v Pyunik
HB Torshavn v FBK Kaunas
FC Levadia Tallinn v Dinamo Tbilisi
NK Gorica v KF Tirana
FC Kairat Almaty v FC Artmedia Bratislava
PFC Neftchi v FH Hafnarfjordur
Rabotnicki v Skonto FC
Glentoran v Shelbourne
Dinamo Minsk v Anorthosis Famagusta
Sliema Wanderers v FC Sheriff
F91 Dudelange v NK Zrinjski
Ail Rownd Rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr
Celtic v FC Kairat Almaty neu FC Artmedia Bratislava
HB Torshavn neu FBK Kaunas v Lerpwl neu TNS
Glentoran neu Shelbourne v Steaua Bucharest
Levadia Tallinn neu Dinamo Tbilisi v Brondby
Partizan Belgrade v Sliema Wanderers neu Sheriff Tiraspol
Debrecen v Hajduk Split
NK Gorica neu SK Tirana v CSKA Sofia
Anderlecht v FH Neftchi or Hafanarjordur
Valerenga v FC Haka or FC Pyunik
Rabotnicki neu Skonto Riga v Lokomotiv Moscow
F91 Dudelange neu Zrinjski Mostar v Rapid Vienna
Dynamo Kiev v FC Thun
Malmo v Maccabi Haifa
Dinamo Minsk neu Anorthosis Famagusta v Trabzonspor