bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Bangor 1-2 FC Dinaburg

19 Mehefin 2005

Mae gan Bangor dasg enfawr o'u blaenau os ydynt am gamu ylaen yn Nhlws yr Intertoto wedi colli cymal cyntaf y rownd gyntaf gartref yn erbyn Dinaburg o Latfia.

Roedd y Citizens, oedd yn chwarae ar faes Belle Vue, Y Rhyl, gôl i lawr wedi pum munud yn unig wrth i Deniss Sokoloskis benio cic gornel Eduards Burlakovs i gefn y rhwyd.

Llwyddodd Paul Roberts i ddod â Bangor yn gyfartal eiliadau cyn yr egwyl, ond rhwydodd Sergejs Valuskins gôl holl bwysig i'r ymwelwyr wedi 70 munud.

Bydd Bangor yn teithio i Latfia ar gyfer yr ail gymal ar 26 Mehefin.

Roedd Dinaburg wedi trechu tîm o Gymru yn yr un rownd o'r tlws llynedd wrth chwalu Aberystwyth 4-0 yn Latfia wedi gêm ddi-sgôr yng Nghymru.

Ac, wedi chwarae 12 o gemau yn barod yn nhymor Latfia, ymosododd Dinaburg o'r chwiban cyntaf ddydd Sul, a roedd eu ffitrwydd yn amlwg.

Roedd Burlakovs wedi ergydio heibio'r postyn a Valuskins wedi methu cyfle da cyn i Sokoloskis esgyn y uwch na neb i sgorio wedi pum munud.

Llwyddodd Bangor i wrthdefyll cryn dipyn o bwysau gan yr ymwelwyr cyn gosod eu stamp eu hunain ar y gêm.

Cafodd yr ymosodwr, Carl Lamb, gyfle euraidd o gic gornel, Clayton Blackmore, ond peniodd y syth i ddwylo'r golwr, Maris Eltermanis.

Yna, funudau'n ddiweddarach, tarodd Paul Roberts ergyd heibio'r postyn wedi Eltermanis ollwng croesiad Les Atherton.

Ond nid oedd y golwr mor ffodus eiliadau cyn yr egwyl wrth iddo ollwng y bêl o gic rydd Kevin Scott ar ben Roberts ac i gefn y rhwyd.

Roedd y gôl yn hwb i Fangor a bu rhaid i Eltermanis fod ar ei orau i arbed ergyd Roberts ar ddechrau'r ail hanner wedi'r ymosodwr guro dau amddiffynnwr ar ochr y cwrt cosbi.

Ond er cyfnod hir o bwyso gan Fangor y gwyr o Latfia gafodd y gôl holl bwysig wrth dorri'n rhydd yn sydyn â phas gelfydd Mihails Zizilevs a tarodd Valuskins heibio Andy Ralph ac i'r rhwyd.

Aeth Bangor y agos at gipio ail gôl eu hunain yn y munudau olaf wrth i gic gornel Scott hedfan ar draws wyneb y gôl ond llwyddodd Dinaburg i ddal allan.


Bangor: Ralph, Blackmore, Scott, O'Neill, Priest, Owain Jones, Roberts, Lamb, Atherton, McGinn, Williams.
Eilyddion: Eifion Jones, Gray, Davies, Owen, Ogilvie, Friel, Short.

Dinaburg: Eltermanis, Sokolskis, Zhuromski, Khimich, Sokolovs, Burlakovs, Shmykov, Kolcovs, Kriklivijs, Zizilevs, Valuskins.
Eilyddion: Fjodorovs, Timacheve, Krjauklis, Volkovs, Digulovs.

Dyfarnwr: Svein Oddvar Moen (Norwy).





Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy