FAW yn wfftio syniad TNS
26 Mai 2005
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi wfftio syniad TNS o chwarae gêm ail gyfle â Lerpwl am le yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Roedd pencampwyr Cymru yn fodlon ildio eu lle yn rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr petai Lerpwl yn ennill gêm ail chwarae rhwng y ddau glwb.
Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynnu bod rhaid i TNS chwarae yn y gystadleuaeth, neu ildio eu lle i glwb Cymreig arall.
Methodd Lerpwl â sicrhau eu lle yng nghystdleuaeth tymor nesaf gan iddynt orffen yn bumed yn Uwchgynghrair Lloegr.
Mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn Lloegr wedi cadarnhau mai'r pedwar tîm uchaf yn y gynghrair fydd yn cael llefydd Lloegr yng Nghynghrair y Pencampwyr tymor nesaf, ac mae Uefa'n mynnu na fyddent yn newid eu rheolau er mwyn caniatau Lerpwl i amddiffyn y tlws.Uefa'n cadw at y rheolau
Roedd Harris wedi dweud wrth BBC Cymru byddai gêm yn erbyn Lerpwl yn gwneud synnwyr ariannol i'r clwb o Lansantffraid, ond dywedodd ysgrifenydd cyffredinol yr FAW, David Collins, na fyddai'n cefnogi'r fath syniad.
Gwnaeth TNS eu hymddangosiad cyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr yn 2000, gan golli 6-2 ar gyfanswm goliau yn erbyn pencampwyr Estonia, Levadia Maardu.
Y Barri yw'r unig glwb o Gymru sydd wedi camu ymlaen yn y gystadleuaeth wedi iddynt drechu FK Shamkir o Azerbaijan yn 2001.
Ac o'r herywdd dywedodd Harris "Byddai gêm [yn erbyn Lerpwl] yn denu sylw mawr gan y wasg a byddai'n codi proffil ein cynghrair trwy Brydain.
"Rydym yn dioddef yn enbyd gan ein bod yn byw drws nesaf i Loegr sydd â'r Uwchgynghrair a'r holl sylw ac arian.
"Rydym ni fel cenedl ac fel clybiau [Uwchgynghrair Cymru] yn ceisio cyfuno â rheolau llym Uefa yn nhermau meysydd, ac mae angen lot fawr o arian i wneud hyn.
"Byddai'r gêm yma yn ein galluogi i gwblhau rhywfaint o'n cynlluniau. A chyda rhywfaint o lwc, byddwn yn ennill!"