TNS eisiau herio Lerpwl
26 Mai 2005
Mae pencampwyr Uwchgynghrair Cymru, TNS, wedi cynnig ffordd i Lerpwl allu amddiffyn eu tlws yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Dywedodd cadeirydd a pherchennog TNS, Mike Harris, byddai'n fodlon i'r Cochion gymryd lle ei glwb yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr petaent yn ennill gêm ail chwarae rhwng y ddau glwb.
"Mae gennym feddwl agored dros gynnal gêm ail chwarae ar gyfer ein lle yng Nghynghrair y Pencampwyr," meddai Harris wrth Adran Chwaraeon BBC Cymru.
Methodd Lerpwl â sicrhau eu lle yng nghystdleuaeth tymor nesaf gan iddynt orffen yn bumed yn Uwchgynghrair Lloegr.
Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau mai'r pedwar tîm uchaf yn y gynghrair fydd yn cael llefydd Lloegr yng Nghynghrair y Pencampwyr tymor nesaf, ac mae Uefa'n mynnu na fyddent yn newid eu rheolau er mwyn caniatau Lerpwl i amddiffyn y tlws.> Uefa'n cadw at eu rheolau
Gwnaeth TNS eu hymddangosiad cyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr yn 2000, gan golli 6-2 ar gyfanswm goliau yn erbyn pencampwyr Estonia, Levadia Maardu.
Y Barri yw'r unig glwb o Gymru sydd wedi camu ymlaen yn y gystadleuaeth wedi iddynt drechu FK Shamkir o Azerbaijan yn 2001.
Mae Harris, yn credu byddai gêm yn erbyn Lerpwl yn gwneud synnwyr ariannol i'r clwb o Lansantffraid.
"Byddai gêm o'i fath yn denu sylw mawr gan y wasg," ychwanegodd. "Byddai'n codi proffil ein cynghrair trwy Brydain.
"Rydym yn dioddef yn enbyd gan ein bod yn byw drws nesaf i Loegr sydd â'r Uwchgynghrair a'r holl sylw ac arian.
"Rydym ni fel cenedl ac fel clybiau [Uwchgynghrair Cymru] yn ceisio cyfuno â rheolau llym Uefa yn nhermau meysydd, ac mae angen lot fawr o arian i wneud hyn.
"Byddai'r gêm yma yn ein galluogi i gwblhau rhywfaint o'n cynlluniau. A chyda rhywfaint o lwc, byddwn yn ennill!"
Dywedodd Harris nad oedd wedi cysylltu ag Uefa hyd yma, ond mae'n annhebygol byddai'r corff llywodraethol yn caniatau'r fath gêm.
Mae'n siwr byddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn gwrthwynebu colli eu hunig le yng Nghynghrair y Pencampwyr.