bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Jiws yn cyrraedd 200

Marc Lloyd-Williams yn sgorio i Fangor yn erbyn Derwyddon Cefn

16 Ionawr 2005

Llwyddodd Marc Lloyd-Williams i fod y chwaraewr cyntaf yn hanes Uwchgynghrair Cymru i sgorio 200 o goliau wrth fachu hat-tric yn erbyn Caernarfon ddydd Sadwrn.

Dechreuodd Jiws ei yrfa â Phorthmadog gan rwydo chwe gôl yn nhymor cyntaf Cynghrair Cymru ym 1992/93.

Wedi dau dymor ar Y Traeth symudodd i Ffordd Farrar ac mewn chwe tymor welodd Lloyd-Williams yn chwarae 152 o gemau, rhwydodd 130 o goliau.

Daeth uchafbwynt ei yrfa yn 2001/02 pan rwydodd 47 gôl - cyfanswm oedd yn sicrhau mai Lloyd-Williams oedd prif sgoriwr holl gynghreiriau Ewrop.

Rhwydodd ei gôl gyntaf yn y gynghrair i Borthmadog mewn gêm gyfartal 1-1 yng Nglyn Ebwy y nhymor agoriadol y Gynghrair Genedlaethol ym 1992/93.

Ond yn amlwg, nid oedd wedi gwneud argraff mawr gan nad yw'n cofio'r gôl.

"I fod yn onest, tydw i ddim yn cofio llawer ar y goliau 'dwi'n sgorio," chwarddodd.

"Nid wyf yn cyfri fy ngoliau, ond mae pawb wedi bod yn dweud fy mod yn agos (i'r 200) ers fis Tachwedd," meddai Lloyd-Williams wrth BBC Cymru'r Byd.

"Mae'n braf sgorio pob gôl, ond efallai ei fod yn felys fy mod wedi cyrraedd 200 yn erbyn Caernarfon," ychwanegodd y gwr o Lanberis, dreuliodd gyfnod hir â Bangor, gelynion pennaf y Canaries.

"Yr unig beth sydd yn siom yw fy mod heb sgorio yn Ewrop, ond dwi'n gobeithio gallu gwneud hynny tymor nesaf!"


Ystadegau Marc Lloyd-Williams

Clwb Gemau Goliau
Porthmadog 68 (7) 28
Bangor 152 (7) 130
Aberystwyth 26 (6) 18
T.N.S. 16 (4) 25 *
cyfanswm
201

* hyd at 15 Ionawr 2005







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy