Y Barri i adael Parc Jenner
16 Rhagfyr 2004
Mae posibilrwydd fod Clwb Pêl-droed Y Barri yn mynd i orfod gadael Parc Jenner wedi 92 mlynedd gan nad ydynt yn gallu talu'r rent.
Bydd gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Quins y Grange yn cael ei chwarae ym Mhort Talbot gan nad yw'r Barri yn fodlon talu'r ffi mae perchnogion Parc Jenner, Cyngor y Fro, yn ei hawlio.
Roedd cyn berchnogion y clwb wedi arwyddo cytundeb i dalu £500 y gêm tan fo'r cyngor yn archwilio'r sefyllfa.
Bellach, mae'r cyngor eisiau £42,000 y flwyddyn, sydd llawer rhy ddrud i cyn gewri'r byd pêl-droed yng Nghymru.
Mae'r Barri, sydd wedi ennill Uwchgynghrair Cymru ar saith achlysur cyn disgyn i gynghrair y de llynedd, eisoes wedi methu sawl taliad i'r cyngor.Hyd yma, mae'r Barri wedi talu rhwng £7,000 a £10,000 er mwyn cael defnyddio'r maes, ond dywedodd ysgrifennydd y clwb, David Cole, fod cadeirydd y clwb, Stuart Lovering, bellach wedi stopio talu.
Mae Cole yn honni fod y gwr sydd wedi prisio gwerth y cae wedi cymharu Parc Jenner ag Ipswich Town a Bristol Rovers - clybiau sydd yn chwarae ar lefel llawer uwch ac o flaen torfeydd llawer mwy.
Ychwanegodd Cole fod y clwb wedi "gorffen ar Barc Jenner" oni bai fo'r cyngor yn cytuno ar ffigwr llawer llai.
Yn eironig iawn, CPD Y Barri sydd berchen yr ystafelloedd newid ar Barc Jenner ac o'r herwydd byddai'n rhaid i'r Cyngor dderbyn caniatâd Y Barri i dimau eraill ddefnyddio'r adnoddau.