'Fe ddaw y goliau' - Giggs
08 Medi 2005
Tydi diffyg goliau Cymru ddim yn poeni'r capten Ryan Giggs, er iddynt golli o 1-0 yng Ngwlad Pwyl.
Nid yw Cymru wedi sgorio mewn pum gêm ryngwladol, eu rhediad gwaethaf heb ganfod cefn y rhwyd ers 1974.
"Roedd John Hartson a Craig Bellamy yn absennol, felly mae gennym hwy i ddod yn ôl," meddai Giggs.
"Ond y peth pwysig yw gweithio ar sefydlogrwydd y tîm, peidio ildio goliau, ac fe ddaw ein goliau ni yn eu tro."
Wedi'r golled yn Warsaw, ynghyd â buddugoliaeth Gogledd Iwerddon dros Loegr a gêm gyfartal Azerbaijan gartref yn erbyn Awstria, mae Cymru yn canfod eu hunain ar waelod Grwp 6.
Bydd tîm John Toshack yn teithio i Barc Windsor ar 8 Hydref yn gobeithio trechu Gogledd Iwerddon, sydd wedi ennill dwy gêm yn olynol.
"Mi fydde nhw yn hyderus iawn ar ôl buddugoliaeth dda. Cefais sioc pan glywais y canlyniad ond mewn pêl-droed rhyngwladol gall unrhywbeth ddigwydd," ychwanegodd Giggs.
"Fe brofwyd ddydd Sadwrn os ydych yn herio Lloegr mae modd eu curo, ond fe gafwyd perfformiad eu bywydau gan Ogledd Iwerddon gan sicrhau canlyniad da.
"Mae dwy gêm gennym yn weddill, yn erbyn Gogledd Iwerddon ac Azerbaijan, ac rydym yn gobeithio sicrhau rhywbeth o'r gemau hynny.
"Mae'r dyddiau diwethaf wedi bod yn rhai anodd gyda'r gêm gartref yn erbyn Lloegr ar y dydd Sadwrn ac yna mynd allan i Wlad Pwyl, a dwi'n meddwl yr oedd yna goesau blinedig iawn.
"Ond gobeithio y byddwn yn dysgu o'r gemau hyn, oherwydd mae Gwlad Pwyl yn dîm da ac ond 1-0 oedd y sgôr."