Tîm dan-21 yn y fantol
08 Medi 2005
Mae Cymru yn poeni am ddyfodol y tîm dan-21 wedi i Uefa gyhoeddi fformat newydd ar gyfer y gystadleuaeth.
O'r tymor nesaf ymlaen, ni fydd y tîm dan-21 yn wynebu'r un gwledydd y mae'r tîm llawn yn chwarae yn erbyn yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd neu Pencamwpriaethau Ewrop.
Bydd cystadleuaeth unigol, blwyddyn o hyd yn cael ei chreu - ac mae'n debyg y bydd rhai i Gymru gêm ragbrofol.
"Fe fydd problem ynglyn â chostau ac os na wnawn ni lwyddo yn y gemau rhagbrofol ni fydd gennym gemau o bwys am flwyddyn."
Mae'r fformat presennol yn caniatau'r cyrff llywodraethol i dorri lawr ar gostau gyda'r tîm dan-21 yn teithio gyda'r tîm llawn i gemau tramor.
Nid oes gan Gogledd Iwerddon dîm dan-21 oherwydd y gost, ac fe all y drefn olygu fod gwledyddbychain fel Cymru yn dilyn yr un llwybr.
Pryder Cymdeithas Pêl Droed Cymru yw y gall hyn effeithio datblygiad y chwaraewyr ifanc.