Profiad gwerthfawr medd Toshack
08 Medi 2005
Er colli eu gêm ddiweddaraf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Gwlad Pwyl, dywed John Toshack fod y profiad wedi bod yn un gwerthfawr i'w dîm.
Mae'r golled o 1-0 yn Warsaw yn golygu dyw Cymru heb ennill o hyd yng Ngrwp 6 ac yn dal i aros am eu buddugoliaeth gystadleuol gyntaf ers Mawrth 2003.
"Roedd y gêm yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn wedi effeithio llawer ar y chwaraewyr yn gorfforol ac yn feddyliol," meddai Toshack.
"Yna roedd rhaid dod allan i Wlad Pwyl a wynebu'r tîm gorau yn y grwp ar achlysur anodd ac roedd hi'n ormod i rhai o fy chwaraewyr
> Gwlad Pwyl 1-0 Cymru
"Mae Gwlad Pwyl yn dîm da iawn ac fe wnaetho ni ein gorau, ond roeddynt yn well na ni."
Sgoriodd Maciej Zurawski gic o'r smotyn wedi 53 munud sydd yn mynd â'r Pwyliaid gam yn nes at rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn yr Almaen yr haf nesaf.
Yr oedd y Pwyliaid wedi meddwl eu fod wedi ei sicrhau eu lle yno'n barod, ond gôl hwyr Sweden yn erbyn Hwngari yn golygu y bydd yn rhaid iddynt aros.
Daeth Richard Duffy, Craig Davies a Joe Ledley ymlaen i'r maes fel eilyddion i Gymru yn yr ail hanner.
Ac mae Toshack o'r farn bydd y profiad yn elwa Cymru wrth iddo baratoi ar gyfer rowndiau rhagbrofol Pencampwriaethau Ewro 2008.
"I rai o'n chwaraewyr sy'n chwarae yn yr adrannau is roedd hwn yn brofiad nad oeddynt wedi ei wynebu o'r blaen," ychwanegodd Toshack.
"Ni allwn eu beio, fe wnaetho nhw eu gorau allan yno, ond y Pwyliaid yn dangos mai nhw yw tîm gorau yn y grwp.
"Nid chwaraeodd rhai o'n hogia ar eu gorau, ond ni allwn eu beio am hynny o dan yr amgylchiadau.