bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Gwlad Pwyl 1-0 Cymru

07 Medi 2005

Cic o'r smotyn gan Maciej Zurawski wedi 53 munud sicrhaodd buddugoliaeth i Wlad Pwyl wedi i Richard Duffy lorio Kamil Kosowski yn y cwrt cosbi.

Rob Earnshaw a Ryan Giggs gafodd gyfleoedd gorau Cymru, gyda Danny Coyne yn gwneud tair arbediad gwych i rwystro'r Pwyliaid.

Mae'r golled yn golygu fod Cymru wedi mynd 14 gêm heb fuddugoliaeth gystadleuol ac ar waelod Grwp 6 wedi i Azerbaijan sicrhau gêm gyfartal gartref yn erbyn Awstria.

Gwnaeth Cymru pedwar newid i'r tîm gollodd yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.

Daeth Earnshaw fewn i'r tîm yn lle John Hartson oedd wedi ei wahardd, gyda Rob Edwards, James Collins a Jason Koumas yn cymryd lle Richard Duffy, Rob Page a Carl Robinson.

Cafodd Edwards ddechrau nerfus gan adael gormod i le Kosowski, dyma'n croesi fewn i'r cwrt a chanfod Miroslaw Szymkowiak dyma'n gweld ei ergyd yn cael ei arbed gan Coyne.

Ergydiodd Zurawski a Tomasz Rzasa gyda'r Pwyliaid yn dechrau'r gêm y gorau o'r ddau dîm.

Setlodd Cymru wedi hynny ond fu bron iddynt cael eu dal allan gan wrth ymosodiad.

Torrodd Ebi Smolarek rhydd ar y chwith cyn cyrraedd y cwrt a Coyne yn ffodus i gael gwared o'r perygl, wedi iddo wneud smonach o'r ergyd wreiddiol.

Earnshaw, yn dechrau ei gêm gystadleuol gyntaf o dan reolawth John Toshack, gafodd gynnig cyntaf Cymru ond ei gynnig yn cael ei arbed yn gyfforddus gan y golwr Artur Boruc.

Bu'n rhaid i Coyne arbed ergyd gan ymosodwr newydd Tottenham Grzegorz Rasiak wrth i'r hanner ddirwyn i ben.

Cyn hynny cafwyd y symudiad gorau gan Gymru gyda Edwards yn cael ei ganfod yn rhydd ar yr asgell dde, ond roedd ei groesiad yn rhy hir i Earnshaw.

Daeth Edwards, oedd wedi cael trafferth i ddelio gyda Kosowski, oddi ar y cae yn ystod yr egwyl, gyda Duffy yn dod ymlaen yn ei le.

Gwnaeth amddiffynnwr Coventry dacl gwych ar yr asgellwr chwith, ond fe ildiodd gic o'r smotyn gyda'i ail dacl a chic bwerus Zurawski yn rhoi'r tîm cartref ar y blaen wedi 53 munud.

Er i'r Pwyliaid barhau i bwyso, roedd Cymru yn cael rhyw fath o lwyddiant wrth ymosod gyda Sam Ricketts yn penio dros y trawst yn dilyn croesiad Simon Davies.

Methodd Giggs gyda chic rydd gafodd ei arbed gan y golwr ac fe ergydiodd yr eilydd Craig Davies yn bell dros y trawst yn ystod y munudau olaf.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Gwlad Pwyl wedi sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn yr Almaen y flwyddyn nesaf.


Gwlad Pwyl: Boruc, Jop, Rzasa, Baszczynski, Kosowski (Radomski 78), Bak, Sobolewski, Smolarek (Zewlakow 85), Zurawski, Szymkowiak, Rasiak (Frankowski 65).
Eilyddion: Kowalewski, Mila, Niedzielan, Klos.

Cymru: Coyne, Edwards (Duffy 45), Gabbidon, James Collins, Ricketts, Simon Davies, Koumas (Craig Davies 68), Fletcher, Partridge, Giggs, Earnshaw (Ledley 80).
Eilyddion: Price, Roberts, Page, Robinson.

Dyfarnwr: Claus Bo Larsen (Denmarc)





Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy