Hartson yn edrych at y cefnogwyr
31 Awst 2005
Mae John Hartson yn credu bydd cefnogwyr Cymru yn mynnu buddugoliaeth dros Loegr ddydd Sadwrn - ond byddent yn deall os na fydd yn dod.
Gan nad yw Cymru'n gallu cyrraedd Cwpa y Byd 2006, mae John Toshack wedi dechrau adeiladu tîm ar gyfer Ewro 2008.
"Mae nhw (Lloegr) yn un o dimau gorau'r byd a rydym ni'n ailadeiladu'r garfan â chwaraewyr ifanc," meddai ymosodwr Celtic.
"Bydd y dorf yn gymorth i ni, ond maent yn deall beth sydd yn digwydd â Chymru ar hyn o bryd."
Mae Toshack yn targedu llwyddiant hir-dymor yn hytrach na chanolbwyntio ar ganlyniadau presenol, er mae Hartson yn deall awch y Cymry i drechu'r hen elyn yng Ngrwp Chwech."Mae yna gyffro gan y cefnogwyr, er y byddem wedi hoffi mynd i fewn i'r gêm mewn sefyllfa well," ychwanegodd Hartson.
"Mae'r gêm wedi gwerthu allan ers dros flwyddyn ac mae nifer wedi bod yn edrych ymlaen yn arw.
"Rydym yn y broses o ailadeiladu a'r unig beth gallwn wneud yw ceisio sicrhau gwell perfformiad na'r tro diwethaf.
"Bydd nifer o'r cefnogwyr yn ysu i guro'r Saeson - ac mae hynny'n naturiol."
Mae disgwyl i'r tîm fydd yn wynebu Lloegr ddydd Sadwrn fod yn dra wahanol i'r tîm gollodd 2-0 yn Old Trafford fis Hydref diwethaf.
Yn dilyn ymddeoliadau, anafiadau a gwaharddiadau, mae'n debyg mai pum chwaraewr yn unig fydd ar ôl o'r tîm chwaraeodd ym Manceinion.