bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Hughes yn clodfori Savage

15 Mawrth 2005

Mae rheolwr Blackburn Rovers, Mark Hughes, wedi datgan mai Robbie Savage yw'r chwaraewr Cymreig gorau yn y blynyddoedd diweddar.

Cyhoeddodd Savage ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol wythnos yma wedi olynydd Hughes fel rheolwr y tîm cenedlaethol, John Toshack, ei adael allan o'r garfan i herio Awstria.

Dywedodd Hughes wrth BBC Radio Five Live mai Savage oedd y chwaraewr pwysicaf i Gymru yn ystod ei deyrnasiad fel rheolwr Cymru.

"Yn ystod fy amser i wrth y llyw â Chymru, roeddwn yn ffodus iawn i gael Robbie yn y garfan - ac am bum mlynedd fo oedd y chwaraewr gorau yn y tîm.

"Mae Robbie wedi gwneud ei benderfyniad a rwy'n credu fod rhaid i bawb barchu hynny yn ogystal â'r hyn mae wedi wneud i bêl-droed yng Nghymru.

"Wrth edrych ar y sefyllfa o safbwynt bersonol, bydd yn gallu canolbwyntio ar Blackburn a rydym yn falch o hynny."

Mae Savage wedi beirniadu Toshack yn gyhoeddus wedi iddo gael ei adael allan o'r garfan fydd yn herio Awstria ddwywaith o fewn wythnos ar ddiwedd y mis.

Dywedodd y chwaraewr canol cae fod teyrnasiad Toshack yn "shambles" ac mae'n benderfynol na fydd yn newid ei benderfyniad i ymddeol.

Roedd Hughes eisiau ymbellhau o'r sylwadau am allu rheoli Toshack ond cyfaddefodd: "Mae'n siomedig i bêl-droed Cymreig fod hyn wedi digwydd.

"Nid oes gan Gymru nifer fawr o chwaraewyr o safon Robbie Savage a rwy'n siomedig na fydd chwaraewyr o'i allu ar gael i Gymru."







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy