bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Savage yn ymddeol

14 Mawrth 2005

Mae Robbie Savage wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Dywedodd y chwaraewr canol cae ei fod am ganolbwyntio ar ei bêl-droed â chlwb Blackburn Rovers ac am dreulio amser â'i deulu.

"Rwy'n credu fod yr amser yn iawn, rwyf eisiau treulio mwy o amser â fy nheulu ifanc a chanolbwyntio ar fy ngyrfa â Blackburn Rovers," meddai Savage.

Cafodd Savage ei gap cyntaf ym 1995 yn erbyn Albania ac aeth ymlaen i ennill 39 cap gan sgorio dwy gôl.

Credir fod rheolwr Cymru, John Toshack, wedi siarad â'r chwaraewr canol cae dros y Sul ynglun â'i ddyfodol rhyngwladol.

Methodd Savage gêm gyntaf Toshack wrth y llyw wedi iddo dynnu allan o'r garfan i wynebu Hwngari ym mis Chwefror ag anaf.

Roedd chwaraewr canol cae Blackburn yn uchel iawn ei feirniadaeth o John Toshack wrth i'r FAW chwilio am olynydd i Mark Hughes flwyddyn diwethaf, gan honni fod Toshack yn or-feirniadol o'r chwaraewyr yn ei swydd fel arbennigwr i'r wasg.

A roedd yn arwyddocaol fod datganiad Savage, gyhoeddwyd ar safle we Blackburn Rovers, yn canmol Hughes a'i gyd chwaraewyr ond heb wneud unrhyw sylw am Toshack.

"Roeddwn yn ffodus i fod yn rhan o un o dimau mwyaf llwyddiannus Cymru ac o gael gweithio â thîm rheoli o Mark Hughes, Mark Bowen ac Eddie Niedzwiecki, a rwyf yn eu hedmygu'n fawr iawn," meddai Savage.

Roedd cyn hyfforddwr Lerpwl, Roy Evans, sydd bellach yn ran o dîm hyfforddi Toshack, wedi ei synnu gan y cyhoeddiad.

"Dim ond un gêm rydym wedi ei gael ers i mi fod yma ac nid oedd yr un gair croes rhwng y ddau," meddai Evans.

"Roedd yn cael ymlaen yn dda efo gweddill y garfan ac mae'n syndod ei fod wedi dewis dod â'i yrfa rhyngwladol i ben.

"Mae'n dda cael cymeriadau, ond mae bywyd pêl-droed yn mynd yn ei flaen." Mae Savage yn dilyn ôl traed nifer o'r hen benau yng ngharfan Cymru megis Gary Speed, Mark Pembridge, Andy Johnson, Andy Melville, Neville Southall a'r golwr Mark Crossley, sydd wedi dewis dod â'u gyrfaoedd rhyngwladol i ben.

Dechreuodd Savage ei yrfa ar lyfrau Manchester United, yn chwarae yn yr un tîm ieuenctid â Ryan Giggs a David Beckham.

Ond wedi iddo gael ei ryddhau ga United ymunodd â Crewe Alexandra ym 1994.

Cafodd ei ddewis i Gymru tra ar Ffordd Gresty cyn symud i Chaerlyr ym 1997, ond wedi'r Foxes ddisgyn allan o'r Uwchgynghrair ymunodd â Birmingham Cuty yn 2002.

Daeth ei gyfnod ar St Andrews i ben ym mis Ionawr wedi trosglwyddiad dadleuol i Blackburn er mwyn iddo gael ail ymuno â chyn reolwr Cymru, Hughes.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy