bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Cyn arwr Cymru, Burgess, yn marw

16 Chwefror 2005

Mae'r Cymro, Ron Burgess, oedd yn gapten ar dîm Tottenham Hotspur pan lwyddodd y clwb i ennill y bencampwriaeth ym 1951, wedi marw yn 87 mlwydd oed.

Wedi ymuno â'r RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth Burgess yn aelod rheolaidd o dîm Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol yn ystod y rhyfel a llwyddodd i wisgo'r crys coch am wyth tymor wedi'r rhyfel.

Cafodd y cyntaf o'i 32 cap yn erbyn Lloegr ym Manceinion ym mis Tachwedd 1946, a'r olaf yn erbyn Awstria yn Vienna ym 1954 a sgoriodd ei unig gôl rhyngwladol mewn buddugoliaeth 3-2 dros Y Swistir ym 1951.

Chwaraeodd 296 o gemau i Spurs cyn symud i Abertawe ym 1954-55 lle chwaraeodd am dymor cyn cymryd swydd rheolwr y clwb am dair blynedd.

Ym 1959 cymrodd yr awenau yn Watford a thra'n hyfforddwr â Fulham ym 1965 cymrodd reolaeth o dîm Cymru am un gêm yn absenoldeb Dave Bowen wrth iddynt chwalu Gogledd Iwerddon 5-0 yn Belfast.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy