Cymru 2-0 Hwngari
09 Chwefror 2004
Dechreuodd John Toshack ei ail deyrnasiad wrth y llyw â Chymru yn y modd gorau posib gyda buddugoliaeth haeddiannol dros Hwngari yng Nghaerdydd.
Craig Bellamy, oedd yn ddraenen yn ystlys Hwngari drwy gydol y gêm, gafodd y ddwy gôl, y cyntaf yn gic rydd aeth o dan gorff golwr Hwngari, Gabor Kiraly.
A roedd Kiraly ar fai am ail gôl Bellamy, gan adael i ymosodwr Cymru ergydio'r bêl trwy ei goesau ac i gefn y rhwyd.
Tarodd Carl Robinson postyn Hwngari yn yr hanner cyntaf gyda ergyd Zoltan Gera y taro'r trawst i'r ymwelwyr funudau'n ddiweddarach.
Roedd anafiadau i nifer o brif chwaraewyr y garfan wedi amharu ar baratoadau Cymru.Gyda chwaraewyr fel Ryan Giggs, John Hartson a Robbie Savage wedi anafu, bu rhaid i Toshack ddefnyddio system anghyfarwydd o 3-5-2 gyda tîm gymharol ddibrofiad.
Ac er bod staff Stadiwm y Mileniwm wedi gwneud gwyrthiau i sicrhau fod y maes yn dderbyniol wedi'r gêm rygbi ddydd Sadwrn, roedd angen i'r chwaraewyr ganolbwyntio'n fwy nag arfer ar rediad y bêl.
Daeth cyfle cyntaf Cymru wedi chwarter awr wrth i Rob Edwards greu lle iddo'i hyn i lawr yr asgell dde cyn croesi pêl oedd fodfeddi'n rhy uchel i Rob Earnshaw.
Cafwyd ymateb sydyn gan Hwngari wrth i Danny Coyne, yn y gôl i Gymru, orfod arbed ergyd Tamas Hajnal o bell.
Parhaodd Cymru i fygwth i lawr yr esgyll gyda Carl Fletcher, oedd yn gawr yng nghanol cae, o fewn modfeddi o gysylltu â chroesiad hyfryd Sam Ricketts.
Roedd amddiffynnwr Abertawe yn mwynhau ei gap cyntaf dros ei wlad gan ymosod i lawr yr asgell chwith ac yn cyfuno'n dda gyda David Partridge o Motherwell, oedd hefyd yn ennill ei gap cyntaf.
Cafodd Cymru gyfle euraidd i rwydo wrth i'r bêl ddisgyn wrth draed Robinson yn y cwrt cosbi, ond brysiodd golwr Crystal Palace, Kiraly, oddi ar ei linell gan orfodi Robinson i frysio ei ergyd a tharo'r postyn.
Yna llwyddodd ymosodwr West Brom, Gera, i greu lle iddo'i hun â tharo ergyd hyfryd oddi ar drawst gôl Cymru.
Roedd Bellamy ar dân eisiau profi pwynt ac nid oedd yn syndod mai ymosodwr newydd Celtic gafodd gôl agoriadol y gêm.
Crymanodd ei gic rydd heibio'r mur amddiffynnol ac o dan Kiraly am ei wythfed gôl rhyngwladol wedi 63 munud.
Ac 17 munud yn ddiweddarach roedd Kiraly wedi ei guro am eildro wrth i ergyd Bellamy fynd trwy ei goesau a chropian dros y llinell gôl.
A bu bron i Bellamy gasglu ei hat-trick wedi Kiraly daro'r bêl yn syth at ei draed, ond llwyddodd yr amddiffyn i rwystro Bellamy ar yr eiliad olaf.
Cymru: Coyne, Edwards (Weston 49), Page, Partridge (Collins 64), Gabbidon, Ricketts, Davies, Fletcher, Robinson (Stephen Roberts 90), Bellamy, Earnshaw (Gareth Roberts 75).
Eilyddion: Jones.
Hwngari: Kiraly, Bodnar, Gyepes, Juhasz, Dragoner, Lipcsei (Kovacs 67), Korsos (Rosa 65), Hajnal (Leandro 58), Torghelle (Kenesei 82), Gera, Huszti.
Eilyddion: Szucs, Stark, Vanczak, Vincze.
Dyfarnwr: C Richmond (Yr Alban).