bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Giggs a Savage allan

Ryan Giggs

08 Chwefror 2004

Bydd rhaid i Ryan Giggs ddisgwyl cyn ennill cap rhif 50 wedi iddo dynnu allan o dîm Cymru i herio Hwngari yn Stadiwm y Mileniwm ag anaf i linyn ei âr.

Roedd disgwyl i asgellwr Manchester United arwain ei wlad nos Fercher ond mae bellach wedi gadael Caerdydd er mwyn dychwelyd i'w glwb.

A bydd Robbie Savage hefyd yn colli'r gêm wedi chwaraewr Blackburn ymuno â Gavin Williams o West Ham (ffêr) ar y rhestr anafiadau

Mae amheuaeth hefyd dros yr ymosodwr, John Hartson (cefn), a'r amddiffynwyr Danny Gabbidon a Gareth Roberts (llinyn âr)

Gyda'r maes yn Stadiwm y Mileniwm wedi torri'n ddrwg wedi'r gêm rygbi rhyngwladol ddydd sadwrn, mae'n debyg bod hyfforddwr Cymru, John Toshack, a'i dîm meddygol am fod yn fwy gofalus.

Mae amddiffynnwr Wrecsam, Stephen Roberts, eisoes wedi ei alw i'r garfan, ond nid oes unrhyw gynlluniau i alw am unrhyw un arall.

Mae'r newyddion yn golygu fod rheolwr Cymru, John Toshack, yn fyr o amddiffynwyr ar gyfer ei gêm gyntaf wrth y llyw, gyda Mark Delaney eisoes allan o'r garfan oherwydd anaf ac amddiffynnwr canol Caerdydd, James Collins, wedi ei ddewis i'r tîm dan-21.

Fe all hynny weld Danny Collins a Dave Partridge yn gwneud eu hymddangosiadau cyntaf i Gymru.

Carfan Cymru i herio Hwngari yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ar 9 Chwefror: Coyne (Burnley), Jones (Wolves), Collins (Sunderland), Edwards (Wolves), Gabbidon (Caerdydd), Page (Caerdydd), Partridge (Motherwell), Roberts (Wrecsam), Ricketts (Abertawe), Roberts (Tranmere), Weston (Caerdydd), Davies (Tottenham), Fletcher (West Ham), Koumas (West Brom), Robinson (Sunderland), Bellamy (Newcastle), Earnshaw (West Brom), Hartson (Celtic).





Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy