|
Roberts yng ngharfan Cymru
07 Chwefror 2005
Mae amddiffynnwr canol Wrecsam, Stephen Roberts, wedi ei ychwanegu i garfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar â Hwngari yng Nghaerdydd nos Fercher.
Daw'r alwad wedi Danny Gabbidon o Gaerdydd ddioddef anaf i linyn ei âr yn ystod gêm yr Adar Gleision â West Ham ddydd Sul.
Ac mae amheuaeth dros Rhys Weston o Gaerdydd a Gavin Williams o West Ham ddioddef anafiadau yn gêm welodd yr Hammers yn trechu Caerdydd 1-0.
Cafodd Roberts, 24, ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar ag America yn San Jose yn 2003 ond bu rhaid iddo dynnu allan oherwydd anaf i'w bigwrn.
Mae Mark Delaney eisoes allan o'r garfan oherwydd anaf ac mae amddiffynnwr canol Caerdydd, James Collins, wedi ei ddewis i'r tîm dan-21 fydd yn herio Yr Almaen ar Y Cae Ras, Wrecsam nos Fawrth.Carfan Cymru i herio Hwngari yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ar 9 Chwefror: Coyne (Burnley), Jones (Wolves), Collins (Sunderland), Edwards (Wolves), Gabbidon (Caerdydd), Page (Caerdydd), Partridge (Motherwell), Roberts (Wrecsam), Ricketts (Abertawe), Roberts (Tranmere), Weston (Caerdydd), Davies (Tottenham), Fletcher (West Ham), Giggs (Man Utd), Koumas (West Brom), Robinson (Sunderland), Savage (Blackburn), Williams (West Ham), Bellamy (Newcastle), Earnshaw (West Brom), Hartson (Celtic).

|