bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Enwau newydd yng ngharfan Tosh

John Toshack

26 Ionawr 2005

Mae John Toshack wedi cyhoeddi pedwar enw newydd yn ei garfan cyntaf fel rheolwr Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar â Hwngari yn Stadiwm y Mileniwm ar 9 Chwefror.

Mae David Partridge o Motherwell, Sam Ricketts o Abertawe, Gavin Williams o West Ham a Danny Collins o Sunderland yn derbyn yr alwad.

Mae'r golwr, Paul Jones, sydd ar fenthyg â Watford wedi ei adael allan o'r garfan.

Ac mae'r amddiffynwr profiadol o Aston Villa, Mark Delaney, yn colli'r gêm gan ei fod wedi anafu ei ben-glin, tra bo James Collins wedi ei enwi'n gapten y tîm dan-21.

Mae'r cyhoeddiad yn coroni cyfnod annhygoel i Collins oedd yn chwarae yng Nghynghrair Undebol y Gogledd i glwb Bwcle hyd at 2001 cyn iddo ymuno â Chaer.

Mae David Partridge o glwb Motherwell, gafodd un cap i dîm dan-21 Cymru yn erbyn Twrci ym 1997, wedi ei gynnwys wedi Toshack ei wylio yn chwarae yn erbyn Celtic dros y Sul.

Mae Brian Flynn hefyd yn croesawu wynebau newydd i'r tîm dan-21 fydd yn herio'r Almaen yn Wrecsam ar 8 Chwefror gyda chwe chwaraewr yn cael eu cynnwys am y tro cyntaf.

Dywedodd Toshack ei fod am weld mwy o chwaraewyr ifanc yn ymuno â'r brif garfan ond mae James Collins a Richard Duffy wedi eu cynnwys yng ngharfan y tîm dan-21 ar gyfer y gêm gystadleuol yn hytrach na gêm gyfeillgar y brif garfan.

Carfan Cymru: Coyne (Burnley), Crossley (Fulham), Collins (Sunderland), Edwards (Wolves), Gabbidon (Caerdydd), Page (Caerdydd), Partridge (Motherwell), Ricketts (Swansea), Roberts (Tranmere), Weston (Caerdydd), Davies (Tottenham), Fletcher (West Ham), Giggs (Man Utd), Koumas (West Brom), Robinson (Sunderland), Savage (Blackburn), Williams (West Ham), Bellamy (Newcastle), Earnshaw (West Brom), Hartson (Celtic).

Carfan dan-21 Cymru: Price (Ipswich), Worgan (Rushden), Beevers (Boston), Collins (Caerdydd), Duffy (Portsmouth), Gilbert (Plymouth), Morgan (Wrecsam), Nyatanga (Derby), Fowler (Huddersfield), Ledley (Caerdydd), Pipe (Notts County), Pulis (Portsmouth), Vaughan (Crewe), Birchall (Arsenal), Calliste (Man Utd), Crofts (Gillingham),Davies (Rhydychen), Tolley (Amwythig).







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy