bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Toshack yn penodi Evans

Roy Evans

26 Tachwedd 2004

Mae rheolwr Cymru, John Toshack, wedi penodi cyn reolwr Lerpwl, Roy Evans, fel ei is-reolwr.

Bydd cyn is-reolwr Toshack â Real Sociedad, Salva Iriarte, hefyd yn rhan o'i dîm hyfforddi.

Roedd Evans yn reolwr ar Lerpwl am bedair blynedd, gan ennill Cwpan y Gynghrair ym 1995. Ond ymddiswyddodd ym 1998 wedi cyfnod anhapus fel cyd-reolwr â Gerard Houllier.

Mae Iriarte yn hyfforddwr uchel iawn ei barch yn Sbaen, ac mae wedi cyd weithio â Toshack ar dri achlysur â Sociedad.

Nid yw Evans wedi gweithio yn y byd pêl-droed ers ymddiswyddo fel cyfarwyddwr pêl-droed Swindon Town ym mis Rhagfyr 2001.

Roedd Evans yn gyd chwaraewr ac yn hyfforddwr ar Toshack yn ystod cyfnod euraidd Lerpwl yn y 70au.

Wedi 11 ymddangosiad i'r tîm cyntaf cafodd Evans ei le fel y person ieuengaf yn y 'boot room' enwog yn Anfield wedi Bill Shankly ymddiswyddo'n annisgwyl ym 1974.

Yna gweithiodd ei ffordd i fyny o'r ail dîm i fod yn hyfforddwr y tîm cyntaf ac yna'n is-reolwr cyn cymryd y swydd rheoli wedi Graeme Souness ymddiswyddo ym mis Ionawr 1994.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy