bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Melville yn ymddeol

Andy Melville

25 Hydref 2004

Mae'r hen ben o amddiffynnwr, Andy Melville, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

"Rwyf wedi bod yn falch iawn cael chwarae dros fy ngwlad, ond rwy'n teimlo fod yr amser yn iawn i roi'r gorau iddi," meddai amddiffynnwr canol West Ham.

Ychwanegodd Melville, 35: "Bydd rheolwr newydd eisiau gweld y talent ifanc sydd yn dod drwodd ac ni fyddwn eisiau sefyll yn eu ffordd."

Gwnaeth Melville ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Gorllewin yr Almaen ym 1989 a chafodd y diwethaf o'i 65 cap yn erbyn Azerbaijan fis diwethaf.

Mae'n dilyn esiampl y cyn gapten, Gary Speed, ddaeth â'i yrfa rhyngwladol i ben wedi'r golled yn erbyn Gwlad Pwyl, gêm welodd diwedd cyfnod Mark Hughes wrth y llyw â Chymru.

"Rwy'n dymuno'n dda i'r rheolwr newydd a byddaf yn gwylio'r blynyddoedd nesaf â chryn ddiddordeb," ychwanegodd Melville.

"Hoffwn ddiolch i'r holl gefnogwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd."







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy